Skip page header and navigation

Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol

Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol

Logo CRN

Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol

Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol: Addysg Ddwyieithog a’r Gymraeg yn un o bedair rhwydwaith ymchwil a sefydlwyd yn 2021 rhwng prifysgolion Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gynyddu capasiti ymchwil ym maes addysg. Arweinir y rhwydwaith gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, ac mae ei haelodaeth yn cynnwys ymchwilwyr sefydliedig, canol gyrfa a gyrfa gynnar ynghyd â myfyrwyr doethurol o’r wyth prifysgol Cymreig a’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Y tair rhwydwaith arall yw Cwricwlwm ac Addysgeg (arweinydd: yr Athro Gary Beauchamp), Cydraddoldeb a Chynhwysiant (arweinydd: Dr Sarah Stewart), Arweinyddiaeth a Datblygu Proffesiynol (arweinydd: Dr Jeremy Griffiths) 

Mae rhaglen waith y Rhwydwaith yn cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol a gyda’r sector addysg yng Nghymru; prosiectau ymchwil ar y cyd; a chyhoeddiadau academaidd ar y cyd.