Skip page header and navigation

Newyddion a Digwyddiadau'r Ganolfan

Newyddion, Seminarau, Darlithoedd Coffa, Cynadleddau a Gweithdai

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal dwy gyfres o seminarau bob blwyddyn ar y cyd â rhaglen seminarau’r Gadair Geltaidd yng Ngholeg Iesu Rhydychen. Fe’u cynhelir fel arfer am 5.00 o’r gloch bob yn ail ddydd Iau yn ystod tymhorau’r Pasg a’r Hydref. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal darlithoedd coffa, cynadleddau undydd yn rheolaidd. Estynnir croeso cynnes i bawb. Cynhelir ein digwyddiadau’n hybrid neu ar lein yn unig drwy Zoom. 

E-bostiwch am ragor o wybodaeth. Cedwir eich manylion ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall.canolfan@cymru.ac.uk

Gallwch wylio recordiad o’n digwyddiadau ar lein ar ein sianel YouTube:

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

Seminarau Celtaidd | Tymor y Gwanwyn 2026

Cynhelir y Seminarau Celtaidd y tymor hwn ar y cyd rhwng Rhydychen a’r Ganolfan
Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Bydd holl seminarau Rhydychen am 5.15yh ar ddydd Iau naill ai’n hybrid neu ar lein yn unig drwy Microsoft Teams. Cynhelir y seminarau
wyneb i wyneb yn Ystafell 20.306, Schwarzman Centre, Radcliffe Observatory Quarter, Woodstock Road. 

E-bostiwch david.willis@ling-phil.ox.ac.uk i dderbyn dolen. Bydd seminarau’r Ganolfan Geltaidd am 5.00 o’r gloch ar nos Iau drwy Zoom neu’n hybrid o Ystafell Seminar y Ganolfan. E-bostiwch a.elias@cymru.ac.uk i dderbyn y ddolen.  

22 Ionawr
Rhydychen (hybrid)
Brigid Ehrmantraut (Caer-grawnt)
Death of the author? Authorship and authority in the Middle Irish classical adaptations
 

29 Ionawr
Y Ganolfan Geltaidd (hybrid)
Elizabeth Edwards (Y Ganolfan)
Home Circuits: the Ladies of Llangollen, queer temporalities and Welsh landscapes
 

5 Chwefror
Rhydychen (hybrid)
Rhiannon Marks (Caerdydd)
Envisaging the end: the representation of language decline in contemporary Welsh writing
 

12 Chwefror
Y Ganolfan Geltaidd (hybrid)
Llion Wigley (Gwasg Prifysgol Cymru)
Ynysoedd Gobaith: Adeiladu Iwtopia yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif
 

19 Chwefror
Rhydychen (ar lein)
Sarah Zeiser (Harvard)
Finding allegory, history, and a complicated timeline in the harvest quatrain of Rhygyfarch ap
Sulien
 

26 Chwefror
Y Ganolfan Geltaidd (ar lein)
Malo Adeux (CRBC)
Ystoria Daret: sources, circulation, reception
 

5 Mawrth
Rhydychen (hybrid)
Emmet Taylor (Cork)
Heads, hierarchy and the heroic
 

12 Mawrth
Y Ganolfan Geltaidd (hybrid)
Eleanor Stephenson (Caer-grawnt)
Landscapes of Extraction: Philippe de Loutherbourg and the Morris Family’s Copper Works,
Swansea