Skip page header and navigation

Diwylliant Gweledol Cymru

Diwylliant Gweledol Cymru

View of a mountain in Wales.

Prosiect Ymchwil Diwylliant Gweledol Cymru

Sefydlwyd prosiect ymchwil ‘Diwylliant Gweledol Cymru’ yn y Ganolfan yn 1994, gyda’r nod o ymchwilio i, ysgrifennu a chyhoeddi hanes diwylliant gweledol Cymru dros 1500 o flynyddoedd, o’r cyfnod yn dilyn rheolaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain hyd at ganol yr ugeinfed ganrif.

Arweiniwyd y prosiect gan yr hanesydd celf Peter Lord, gyda chefnogaeth cynorthwywyr ymchwil a ganolbwyntiai ar agweddau penodol ar yr astudiaeth a darparu cymorth ymarferol i gael gafael ar waith ffotograffig a chytundebau hawlfraint.

Cyhoeddwyd yr ymchwil mewn tair cyfrol a ysgrifennwyd gan Peter Lord. Gwelodd y gyfrol gyntaf, Diwylliant Gweledol Cymru: Y Gymru Ddiwydiannol, olau dydd yn 1998. Roedd yr astudiaeth arloesol hon o hanes celf yn cwmpasu sawl ffurf ar gelfyddyd weledol a grëwyd yng nghymunedau diwydiannol Cymru, ar gyfer y cymunedau hynny ac yn eu cylch, o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd y 1950au. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol, Diwylliant Gweledol Cymru: Delweddu’r Genedl, yn 2000 ac mae’n olrhain datblygiadau ehangach yn niwylliant gweledol Cymru o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd ganol yr ugeinfed ganrif. Cwblhawyd y gyfres pan ymddangosodd Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol yn 2003, yn ymdrin â’r celfyddydau gweledol o’r cyfnod pan ddaeth Cymru yn genedl yn y lle cyntaf yn ystod y bumed a’r chweched ganrif, hyd yr unfed ganrif ar bymtheg, sef man cychwyn Delweddu’r Genedl.

Cyhoeddwyd pob cyfrol yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wahân, ac yn y man cafwyd fersiynau electronig ar CD-ROM, eto yn y ddwy iaith. Roedd y CD-ROMs yn cynnwys yr holl ddelweddau a thestun a gaed yn y llyfrau, gyda channoedd o ddelweddau ychwanegol a deunydd clyweledol atodol, megis cerddoriaeth, animeiddiad a chyfweliadau darluniadol. Roedd ‘Orielau Amser’ yn mynd i’r afael â phwysigrwydd a pharhad diwylliant gweledol hanesyddol yn y presennol. Yn 2002 dyfarnwyd medal Besterman/McColvin yn y categori electronig i’r ail CD-ROM, Diwylliant Gweledol Cymru: Delweddu’r Genedl, fel gwaith cyfeiriol rhagorol.

Books in the Visual Culture of Wales series