Skip page header and navigation

Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol

Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol

Mae gan bob myfyriwr sydd wedi cwblhau Gradd, Diploma neu Dystysgrif a ddyfernir gan Brifysgol Cymru, boed yn astudio mewn sefydliad yng Nghymru neu yn un o’n canolfannau cydweithredol niferus, yr hawl i ddod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.

Bydd llawer o raddedigion eisoes yn rhan o gynlluniau cyn-fyfyrwyr eu sefydliad, ond drwy ymuno â Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gallwch ehangu eich rhwydwaith byd-eang a chynyddu cyfleoedd cydweithio a chydweithredu.

Does dim tâl aelodaeth a gyda chyn-fyfyrwyr ym mhedwar ban byd, bydd cyfle i chi gysylltu â phobl ar raddfa fyd-eang, boed yn gymdeithasol neu’n broffesiynol. Yn ogystal â bod yn ffordd o gadw cysylltiad â’r Brifysgol a’ch gilydd, bydd hawl gennych chi hefyd i amrywiaeth eang o fuddion a chael y newyddion diweddaraf am y cyn-fyfyrwyr a digwyddiadau byd-eang.

Ein nod yw creu cymuned gref, fyd-eang, gwbl ryngweithiol o gyn-fyfyrwyr a hoffen i chi fod yn rhan ohoni.

I ddod yn aelod o gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, cofrestrwch nawr.

Cadw Cysylltiad

Rydym ni wrth ein bodd yn clywed y diweddaraf am ein cyn-fyfyrwyr, felly os oes gennych chi unrhyw newyddion, hanesion neu ffotograffau a fyddai o ddiddordeb i eraill, ebostiwch eich eitemau i alumni@cymru.ac.uk  

Neu gallwch ysgrifennu at:Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NS.