Skip page header and navigation

Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams 2025

Bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cynnal Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams nos Fawrth, 9 Rhagfyr. Sefydlwyd y Ddarlith Goffa hon yn 2001 er cof am y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams a’r ddiweddar Mrs Gwen Williams. Y siaradwr gwadd eleni yw’r Athro Jerry Hunter.

Mae’r Athro Jerry Hunter yn darlithio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ac yn byw ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle. Mae wedi mynd i’r afael â phob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, ond y cyfnod modern cynnar yw prif faes ei ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi chwe llyfr yn y maes hwnnw. Mae ei lyfr diweddaraf – am yr anterliwt – yn y wasg ar hyn o bryd. Ac yntau’n awdur creadigol hefyd, mae wedi cyhoeddi chwe nofel. Bydd ei ddrama, Ledi’r Wyrcws, ar daith led-led Cymru yn ystod mis Mawrth 2026. Mae’n cydgyflwyno’r podlediad arobryn, Yr Hen Iaith.

Llun Jerry Hunter

Testun y ddarlith fydd “Digenhedlu yn rhy bell”:

Y Dyneiddwyr, y Beirdd a Hunaniaeth Genedlaethol Gymreig yn Oes y Tuduriaid’. Rhai o gyfraniadau’r Athro J. E. Caerwyn Williams ei hun yw’r man cychwyn, sef y llyfryn Geiriadurwyr y Gymraeg yng Nghyfnod y Dadeni a dwy ysgrif a gyhoeddodd am genedlaetholdeb yng Nghymru yn yr Oesau Canol. Gan graffu ar gerddi mawl a rhyddiaith gan ddyneiddwyr, bydd y ddarlith yn ystyried y modd y mae rhai o feirdd ac awduron Cymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg yn trafod hunaniaeth genedlaethol. 

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, “Rydym yn hynod falch o groesawu’r Athro Jerry Hunter i draddodi’r ddarlith hon eleni. Mae ei arbenigedd a’i ddiddordebau ymchwil yn cwmpasu canrifoedd lawer a’i ddulliau cyfathrebu ymysg y mwyaf blaengar. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad.”

Cynhelir y ddarlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein nos Fawrth, 9 Rhagfyr 2025, am 5.00 o’r gloch. 

E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.