Diwylliant Gweledol

Ymchwil yn niwylliant gweledol Cymru a'r gwledydd Celtaidd.
Diwylliant Gweledol
Mae diwylliant gweledol wedi bod yn faes ymchwil allweddol yn y Ganolfan ers y 1990au. Cyflwynodd y prosiect ‘Diwylliant Gweledol Cymru’, dan arweiniad Peter Lord, hanes y celfyddydau gweledol yng Nghymru mewn modd cynhwysfawr, ac mae’r gwaith hwnnw, yn ogystal â chyhoeddiadau ac adnoddau ar lein prosiectau eraill a’i dilynodd, wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o’r pwnc.
Cyhoeddodd prosiect ‘Diwylliant Gweledol Cymru’ dair cyfrol o hanes celf yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhwng 1998 a 2003. Dilynwyd dull cynhwysol o ymdrin â phob math o ddiwylliant gweledol dros gyfnod o 1500 mlynedd hyd at y 1950au, yn cynnwys peintiadau, darluniau, cerfluniau, printiau poblogaidd, cyfrolau darluniedig a ffotograffau, ac roedd y gyfrol ar yr Oesoedd Canol yn delio hefyd gydag addurniadau llawysgrifol, gwaith metel a gwydr lliw. Yn y man fe droswyd y llyfrau i fod yn argraffiadau digidol arloesol, a ymddangosodd ar ffurf CD-ROM rhwng 2000 a 2004, a’r rheini’n cynnwys deunydd clyweledol atodol megis cyfweliadau ac animeiddiad.
Roedd agwedd gynhwysol tuag at astudio diwylliant gweledol yn ganolog i’r prosiect lle buom yn edrych ar fynegiant gweledol o’r Beibl yng Nghymru rhwng 1825 a 1975. Arweiniwyd ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’ (2005–8) gan Martin O’Kane o Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan (sydd bellach yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Câi’r gwaith ei gynnal ar y cyd â’r Ganolfan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gydag ymchwil gan Martin Crampin a John Morgan-Guy, a oedd ill dau wedi bod yn gweithio ar brosiect ‘Diwylliant Gweledol Cymru’ cyn hynny.
Roedd ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’ yn arloesol yn ei ymchwil newydd i gelf weledol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif mewn eglwysi yng Nghymru, gyda channoedd o weithiau celf o bob math yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi mewn cronfa ddata ar lein. Cynhaliwyd arddangosfa yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth yn 2008, a oedd yn cynnwys gwaith o gasgliad y brifysgol a gwaith newydd gan artistiaid cyfoes yn ymateb i’r naratif beiblaidd. Cyhoeddwyd y gyfrol Biblical Art from Wales yn 2010 gyda DVD-ROM yn mynd i’r afael â chyfres o themâu megis y Beibl a thirwedd Cymru, duwioldeb domestig, a chelf mewn cymunedau crefyddol, gan ddefnyddio cyfweliadau ag artistiaid ac arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau.
Cronfa ddata prosiect ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’ a ddarparodd y seilwaith technegol a arweiniodd at gyhoeddi adnodd ar lein newydd yn 2011, sef y catalog ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’. Roedd hyn yn ehangu’r casgliad o wydr lliw beiblaidd a oedd eisoes wedi ei gofnodi i gynnwys gwydr lliw canoloesol yng Nghymru, yn ogystal â gwydr lliw mwy diweddar, ac yn benodol felly waith gan staff a myfyrwyr y cwrs arloesol ar Wydr Lliw Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe. Ffrwyth cydweithio diweddar rhwng Martin Crampin a Christian Ryan yng Ngholeg Celf Abertawe yw’r ffaith fod casgliad o gannoedd o baneli gwydr lliw o archif y coleg wedi ei gatalogio, yn cynnwys enghreifftiau sy’n mynd yn ôl i’r 1950au.
Mae prosiectau ymchwil eraill yn y Ganolfan wedi cynnwys agweddau ar ddiwylliant gweledol yng Nghymru a thu hwnt hefyd. Yn 2016 roedd y prosiect ‘Teithwyr Chwilfrydig’ yn gyfrifol am drefnu a churadu arddangosfa o waith artistiaid cyfoes yn ymateb i’r Tour in Wales gan Thomas Pennant, a chyhoeddwyd catalog o’r arddangosfa y flwyddyn wedyn. Mae arddangosfeydd a chyhoeddiadau’r prosiect yn gyson wedi bod yn tynnu sylw at waith Moses Griffith a’r artistiaid eraill a gyfrannodd at y cyfrolau darluniedig o ysgrifau Pennant, ac mae menter newydd ar y gweill i gatalogio a disgrifio’r lluniau a geir yn y cyfrolau darluniedig sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, mewn cydweithrediad â’r Llyfrgell a’r Amgueddfa Astudiaethau Natur.
Cynhaliodd prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ arddangosfa deithiol mewn cadeirlannau ac eglwysi, a oedd yn cynnwys delweddau o seintiau o addoldai ar hyd a lled Cymru. Cafwyd arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2017 a oedd yn cynnwys llawysgrifau hagiograffig o bwys a gedwir yno, yn ogystal â chartwnau o ffenestri lliw a ffotograffau o ddelweddau canoloesol o seintiau. Arweiniodd prosiect dilynol dan nawdd yr AHRC at gynhyrchu cronfa ddata chwiliadwy o ddelweddau o seintiau mewn lleoliadau dros Gymru.
Staff y Ganolfan a weithiai ar y prosiect ‘Porthladdoedd Ddoe a Heddiw’ (2019–23) oedd yn gyfrifol am gomisiynu artistiaid gweledol ac awduron i greu gwaith yn ymateb yn greadigol i’r trefi porthladd sy’n cysylltu Cymru ac Iwerddon. Esgorodd hyn ar gyfres o chwe arddangosfa a digwyddiad yn y ddwy wlad, a nifer o gyhoeddiadau y ceir manylion amdanynt ar y wefan Cysylltiadau Creadigol.
Mae ymchwil i ddiwylliant gweledol a materol Ewrop Môr Iwerydd wedi cael sylw cyson mewn prosiectau a chyhoeddiadau dan arweiniad John Koch, yn cynnwys ei waith ar y cerfiadau cerfwedd Tartesaidd a’r prosiect ‘Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau’ (2013–16), a gynhyrchodd gronfa ddata o filoedd o ddarganfyddiadau archaeolegol o’r cyfnod cynhanesyddol. Mae’r prosiect diweddar ‘Celfyddyd Cerrig, Ewrop Môr Iwerydd, Geiriau a Rhyfelwyr’, dan nawdd Cyngor Ymchwil Sweden, yn parhau â’r dull amlddisgyblaethol o ddeall y cysylltiadau a fodolai rhwng Llychlyn a Phenrhyn Iberia yn yr Oes Efydd Ddiweddar.