Skip page header and navigation

Diogelu Data

Diogelu Data

Mae Prifysgol Cymru yn ymrwymo i weithio mewn cydymffurfiaeth â Deddf Diogelu Data 1998, ac mae’n ystyried bod prosesu gwybodaeth o’r fath, megis storio, adalw a dileu, yn hynod o bwysig, fel y mae diogelwch pob gwybodaeth.

Mae mesurau diogelwch wedi’u sefydlu i ddiogelu yn erbyn colli, camddefnyddio a newid data personol sydd yn ein meddiant. Ni chaiff data ei gadw’n hirach nag sy’n angenrheidiol ac fe’i gwaredir yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Rhagor o wybodaeth 
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch yn ymwneud ag unrhyw ddata personol y gallai’r Brifysgol fod yn ei ddal, cysylltwch â cydymffurfiaeth@cymru.ac.uk neu ysgrifennwch at:

Rheolwr Chydymffurfio a Ysgrifenyddiaeth
Prifysgol Cymru
Cofrestrfa’r Brifysgol
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NS

  • Rhaid i Gais Testun am Weld Data gael ei gyfeirio at y Swyddog Diogelu Data mewn ysgrifen. Fe’ch gwahoddir i ddefnyddio’n Ffurflen, safonol i wneud hyn, ond nid oes rhaid; bydd llythyr cyffredin yn gwneud y tro.

    Sylwer ar y canlynol:

    • Fel rheol, ni chewch wneud y cais ond am ddata personol a ddelir gan Brifysgol Cymru amdanoch chi. Os oes angen i chi wneud cais am ddata rhywun arall, rhaid i chi roi ei ganiatâd ef neu ei chaniatâd hi, mewn ysgrifen, ac wedi ei lofnodi.

    • Bydd y Brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i chi brofi pwy ydych chi. Nid oes dull penodol o wneud hyn, ond gellir gofyn i chi ddarparu rhyw wybodaeth bersonol ategol neu ryw ddogfennaeth bellach megis pasbort.

    • Ni chaiff gwybodaeth ei rhyddhau dros y ffôn.

    • Mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r wybodaeth gael ei chadw’n ôl o dan rai amgylchiadau. Lle bydd y Brifysgol yn penderfynu cadw gwybodaeth yn ôl, rhoddir gwybod i chi yn ysgrifenedig pam mae     hyn wedi digwydd. Cewch holi am y penderfyniad hwnnw drwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn y cyfeiriad a nodir isod.

    • Mae’r Ddeddf yn caniatáu i ffi gael ei chodi am ateb Cais Testun am Weld Data, a ffi’r Brifysgol am y gwasanaeth hwn yw £10. Dylid anfon siec bersonol I Prifysgol Cymru gydag unrhyw gais.

    Y Swyddog Diogelu Data 
    Prifysgol Cymru 
    Cofrestrfa’r Brifysgol 
    Rhodfa’r Brenin Edward VII 
    CAERDYDD 
    CF10 3NS

  • Datganiad preifatrwydd yw hwn sy’n datgelu ein harferion o ran casglu, defnyddio a dosbarthu gwybodaeth ar gyfer gwefan Prifysgol Cymru. Ein hafan yw www.cymru.ac.uk. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y datganiad hwn, cysylltwch â ni:

    Gwefeistr, Y Gofrestrfa, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NS 
    neu webmaster@cymru.ac.uk

    CASGLU DATA

    Data personol

    Caiff yr holl ddata personol ei gasglu a’i storio yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

    Rydym yn casglu’r data canlynol:

    • Data ffrwd clic (y math o gyfrifiadur a meddalwedd pori rydych chi’n eu defnyddio, cyfeiriad y wefan y cysylltoch chi ohoni etc)

    • Elfennau protocol HTTP (cyfeiriad ac enw parth lefel uchaf eich gweinydd (e.e. .com, .gov etc), dyddiad ac amser yr ymweliad etc)

    • Termau chwilio

    Defnyddir y data hwn at y dibenion canlynol:

    • Cwblhau a chymorth ar gyfer y gweithgaredd cyfredol

    • Gweinyddu’r wefan a’r system

    • Ymchwil a datblygu

    Cesglir y data hwn gan bob defnyddiwr gwe. Defnyddir cofnodion defnydd gwe at ddibenion ystadegol yn unig (e.e. i fesur defnydd/perfformiad y safle) ar wahân i achosion o dorri diogelwch. Bryd hynny gellir eu defnyddio at ddiben tracio’r toriad. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gesglir o gofnodion gwe eu rhoi nai’i gwerthu i drydydd parti.

    Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynwch i ni yn cael ei defnyddio at y diben datganedig yn unig. Ni chaiff yr wybodaeth hon ei datgelu i drydydd parti oni bai eich bod chi’n awdurdodi hynny neu yn ôl yr hyn a ganiateir gan y Ddeddf Diogelu Data.

    Cwcis

    Technoleg y gellir ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth sydd wedi’i theilwra i chi o wefan yw cwcis; gallant hwyluso cyfathrebu a rhyngweithio gyda’r safle. Gallwch atal neu gyfyngu ar osod cwcis ar eich cyfrifiadur drwy addasu hoffterau eich porwr gwe, ond gallai hynny amharu ar eich defnydd o’r safle i ryw raddau.

    Yn ôl dewis y defnyddiwr, byddwn ni’n casglu’r data canlynol:

    • Cwcis HTTP

    Caiff cwcis eu defnyddio at y dibenion canlynol:

    • Ymchwil a datblygu

    • Targedu defnyddwyr

    Caiff y data hwn ei ddefnyddio gennym ni a’n asiantau. Caiff cwcis eu defnyddio i dracio ymwelwyr â’r safle.

    Ebost a ffurflenni ar-lein

    Rydym ni’n casglu’r wybodaeth ganlynol:

    • Gwybodaeth gyswllt ffisegol

    • Gwybodaeth gyswllt ar-lein

    • Data demograffig

    • Data hoffterau

    Caiff y data hwn ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:

    • Cwblhau a chefnogi gweithgaredd cyfredol

    • Cysylltu ag ymwelwyr ar gyfer marchnata gwasanaethau neu gynhyrchion

    Ym mhob achos, byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon at y diben y’i darparwyd yn unig. Darperir nifer o ffurflenni ar-lein ar y safle hwn. Dylai’r tudalennau sy’n cynnwys y ffurflenni hyn gynnwys datganiad am sut y caiff data a gyflwynir iddynt ei brosesu.

    Cesglir y data er mwyn i ni allu anfon newyddion a gwybodaeth arall atoch sy’n berthnasol i’ch anghenion a’ch diddordebau.

    Optio allan

    Os oes gennych chi bryderon am y data rydym ni’n ei ddal amdanoch chi, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad uchod.

  • DERBYN GWYBODAETH AM FYFYRWYR

    Cyn eu cofrestru, gall y Brifysgol dderbyn a phrosesu gwybodaeth oddi wrth rai myfyrwyr ynghylch proses matricwleiddio yn y Brifysgol. Proses yw hon lle mae’n ofynnol i fyfyrwyr ddangos bod ganddynt gymwysterau penodol ymlaen llaw a/neu fodloni meini prawf ynglyn â’u hoed. 

    Mae’r Brifysgol yn derbyn ac yn prosesu gwybodaeth bersonol am fyfyrwyr sy’n dilyn cynlluniau astudio sy’n arwain at un neu fwy o’i dyfarniadau, a hynny oddi wrth y Sefydliad lle mae’r myfyriwr yn astudio. At ddibenion cofrestru ac arholi y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chasglu ac mae hyn fel arfer yn golygu trosglwyddo data yn electronig. Mae’r Brifysgol yn dibynnu ar ei Sefydliadau i gadarnhau bod yr wybodaeth yn gywir ond mae prosesau ar gael i gywiro gwallau os gwelir hwy. 

    Mae’r Brifysgol hefyd yn derbyn ac yn prosesu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrth fyfyrwyr ac oddi wrth bersonau y maent wedi gofyn iddynt roi gwybodaeth o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, gall myfyriwr ofyn bod adroddiad meddygol yn cael ei anfon i ategu apêl. 

    Gall gwybodaeth gael ei rhoi gan aelodau o staff Sefydliad ynghylch arholiad neu asesiad, neu mewn perthynas â chais gan y myfyriwr ei hun am amrywiadau arbennig lle caniateir y rhain gan Reoliadau’r Brifysgol neu ei Rheolau Sefydlog. Gall gwybodaeth arall gael ei throsglwyddo i’r Brifysgol yn achos apêl neu gais am ddyfarniad aegrotat neu mewn prosesau safonol tebyg.

    DATGELU GWYBODAETH AM FYFYRWYR

    Bydd y Brifysgol yn datgelu i Sefydliad myfyriwr unrhyw wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer y gweinyddu arferol am eu bod wedi eu cofrestru ar gyfer un o ddyfarniadau’r Brifysgol. 

    Bydd y Brifysgol fel rheol yn gosod manylion y cymwysterau y mae myfyrwyr wedi eu hennill wrth ddilyn ei dyfarniadau yn y bau gyhoeddus. Mae hyn yn golygu y bydd y Brifysgol, os ceir cais a heb gyfeirio ymhellach at y myfyriwr o dan sylw, yn rhoi gwybodaeth sy’n datgan a yw myfyriwr penodol wedi ennill dyfarniad penodol gan y Brifysgol neu beidio. 

    Dylai personau a hoffai ofyn i’w cymwysterau gael eu dal yn ôl rhag cael eu datgelu o dan y naill neu’r llall o’r amgylchiadau hyn gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Brifysgol drwy ysgrifennu at  

    Swyddog Diogelu Data 
    Prifysgol Cymru 
    Cofrestrfa’r Brifysgol 
    Rhodfa’r Brenin Edward VII 
    CAERDYDD CF10 3NS 

    Ffôn: (029) 2037 6999  
    Ffacs: (029) 2027 6980 
    E-bost: cydymffurfiaeth@cymru.ac.uk

    Hefyd, gall y Brifysgol ddatgelu gwybodaeth bersonol os yw o’r farn bod hynny er lles gorau’r person o dan sylw, neu er lles gorau trydydd parti mewn materion o fywyd a marwolaeth, ac ar adegau eraill yn ôl yr hyn a ganiateir gan Ddeddf Diogelu Data 1998. 

    Gall y Brifysgol wrthod datgelu gwybodaeth bersonol hefyd os yw’r Ddeddf yn darparu esemptiad rhag y gofyniad i ddatgelu, ond gall arfer ei disgresiwn yn y materion hyn

    TROSGLWYDDO DATA PERSONOL DROS Y MÔR

    Mae data’n cael ei drosglwyddo y tu hwnt i diriogaeth Ardal Economaidd Ewrop, a hynny rhwng y Brifysgol a’i Sefydliadau dilysedig. Mae’r trosglwyddo’n digwydd wrth gyflawni contract rhwng y Brifysgol a’r Sefydliad o dan sylw. I gofrestru ar gyfer cynllun astudio sy’n arwain at un o ddyfarniadau’r brifysgol, mae’n ofynnol bod y myfyriwr yn cydsynio â throsglwyddiad o’r fath.