Arddangosfa yn Amgueddfa Llangollen
Cerdd a Chof yn Abaty Glyn y Groes
Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2026 cynhelir arddangosfa yn Amgueddfa Llangollen, gan Jenny Day a Martin Crampin, sy’n amlygu cyfraniad abaty Glyn y Groes at fywyd diwylliannol gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r arddangosfa yn cyfuno gwaith celf newydd gan Martin Crampin, seiliedig ar feddfeini hardd yr abaty, a deunydd deongliadol sy’n cyflwyno’r llenyddiaeth a gysylltir â’r abaty, a barddoniaeth Gutun Owain yn arbennig.
Cofnodwyd gweithgareddau a chysylltiadau teuluol noddwyr a phobl ddylanwadol eraill yn y croniclau a’r achau a luniwyd yn yr abaty, a chadwyd sawl marwnad farddol a ganwyd yno. Yn hanner olaf y bymthegfed ganrif datblygodd perthynas arbennig o agos rhwng y gymuned grefyddol a dau fardd, sef Gutun Owain a Guto’r Glyn. Rhydd eu barddoniaeth argraff unigryw o fywyd yng Nglyn y Groes, o’r gwleddoedd moethus yn neuadd yr abad i leisiau nefolaidd y côr yn canu yn yr eglwys.
Lansiwyd yr arddangosfa ar 10 Mehefin 2026. Trafododd Jenny Day addysg Gutun Owain a’i gysylltiadau â’r abaty, a siaradodd Martin am y gerfluniaeth goffaol yn yr abaty a sut yr ysbrydolodd y delweddau haenog, lliwgar a greodd ar gyfer yr arddangosfa. Cafwyd hefyd sesiwn gan Gruffudd Antur ac Eurig Salisbury, yn canolbwyntio ar y berthynas fywiog rhwng Gutun a beirdd eraill, a pherfformiad arbennig o un o gerddi Gutun, wedi ei llefaru gan Eurig i gyfeiliant swynol y delynores Cadi Glwys Davies.
Mae’r arddangosfa ar agor (gyda mynediad am ddim) tan 30 Gorffennaf. Cynhyrchwyd llyfr seiliedig ar gynnwys yr arddangosfa, ac mae ar gael yn Amgueddfa Llangollen a thrwy siop y Brifysgol.
Ariennir prosiect ‘Gutun Owain, Bardd y ffin a Dyn y Dadeni’ gan Gyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau (AHRC) yr UKRI. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â gwefan y prosiect.