
Gorwelion: Cynhadledd Ryngwladol
Cyflwyniad
Cynhadledd Ryngwladol i ddathlu deugain mlwyddiant sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 17–19 Medi 2025

Manylion
Amserlen
Cynhelir Cynhadledd Ryngwladol Gorwelion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rhwng dydd Mercher 17 Medi a dydd Gwener 19 Medi 2025.
- Dydd Mercher 17 Medi 2025 – Diwrnod 1 – Cynhadledd lawn – 11.00 tan 5.00yp. Bydd y ddesg gofrestru yn agor am 10.00 tu allan i’r Drwm.
- Nos Fercher 17 Medi 2025 – Coffáu’r Athro Geraint H. Jenkins am 5.15 tan 7.00yh (Archif Ddarlledu Cymru).
- Dydd Iau 18 Medi 2025 – Diwrnod 2 – Cynhadledd lawn – 9.30 tan 5.00yp.
- Nos Iau 18 Medi 2025 – Swper y Gynhadledd am 7.00yh. Bwydlen (Bwyty Y Consti).
- Dydd Gwener 19 Medi 2025 – Diwrnod 3 – Cynhadledd lawn – 9.30 tan 5.00yp.
Cofrestru ar gau
Teithio a Pharcio
Gellir cyrraedd Aberystwyth drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gludiant preifat. Gellir parcio am ddim ym maes parcio Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dilynwch y ddolen yma am ragor o fanylion.
Amodau
Cedwir yr hawl i amrywio’r rhaglen.