Spotlight place-names

Enwau Lleoedd Sir Amwythig
Enwau Lleoedd Sir Amwythig
Fel rhan o brosiect mawr i gwblhau’r gwaith o lunio arolwg Cymdeithas Enwau Lleoedd Lloegr o enwau lleoedd sir Amwythig dan nawdd yr AHRC (gweler wefan y prosiect), byddwn yn paratoi astudiaeth o enwau Cymraeg y sir. Byddwn yn neilltuo cyfrol swmpus i gantrefi Clun (yn y de-orllewin) a Chroesoswallt (yn y gogledd-orllewin), lle mae’r iaith Gymraeg wedi cyfrannu’n helaeth at y doponymeg leol. Ceir yma ddwsinau o bentrefi a phentrefannau yn dwyn enwau Cymraeg – lleoedd fel Bettws-y-Crwyn, Llanvair Waterdine, Llanymynech, Trefarclawdd ac Argoed; ac mae cannoedd o dai a chaeau yn dwyn enwau fel Rhyd y Cwm, Pencraig, The Maes a Vron. Nod cyntaf y gyfrol fydd cofnodi sillafiadau hanesyddol holl enwau’r ddwy ardal, o dai a phentrefi i’r clostiroedd lleiaf a choedwigoedd, nentydd a strydoedd. Bydd nifer o’r rhain yn enwau Saesneg, eraill yn Gymraeg, ac eraill wedyn yn dangos y rhyngwynebu, ac weithiau’r cydadweithio, a oedd yn digwydd rhwng yr ieithoedd. Yr ail nod fydd egluro tarddiad ieithyddol, neu ystyr, yr enwau cyn belled ag y bo modd.
Hyd at y fan hon, bydd y gyfrol yn enghraifft ‘safonol’ o arolwg gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Lloegr, heblaw am y deunydd Cymraeg. Ond mewn dau beth arall bydd yn bur anarferol. Yn gyntaf, byddwn yn llunio mynegai elfennau penodol Gymraeg, gan restru nid yn unig eirfa Gymraeg ac enwau personol o Glun a Chroesoswallt, ond hefyd yr holl ddeunydd Cymraeg a geir mewn rhannau eraill o’r sir, gan fod siaradwyr Cymraeg wedi bod yn trigo mewn rhannau eraill o’r gorllewin a’r gogledd, er nad yn yr un niferoedd o reidrwydd. Ac, yn ail, byddwn yn cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o’r holl ddeunydd mewn pennod ragarweiniol a fydd yn olrhain hanes yr iaith Gymraeg yn sir Amwythig (ac mewn siroedd cyfagos) yng ngoleuni’r dystiolaeth helaeth hon, nad ydyw erioed wedi ei hastudio o ddifrif o’r blaen.
Mae tîm y prosiect yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cynnwys Helen Watt, ymchwilydd archifol profiadol y mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys Welsh Manors and their Records (2000) ac, yn fwy diweddar, argraffiad digidol o ohebiaeth Edward Lhwyd, a David Parsons, Dirprwy Gyfarwyddwr Arolwg Enwau Lleoedd Lloegr a chyn-Gyfarwyddwr Sefydliad Enwau Lleoedd Nottingham. Bydd Emily Pennifold, sy’n fyfyrwraig PhD yn y Ganolfan, hefyd yn cyfrannu at y prosiect, a’i thraethawd ar enwau caeau ôl-ganoloesol yn y gororau yn cynnwys astudiaeth achos fanwl o ran helaeth o gantref Croesoswallt. Seilir yr ymchwil ar ddeunydd a adawyd i ni gan Margaret Gelling a’i chyd-weithiwr, George Foxall, ac ar ddogfennau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Sir Amwythig. Bydd y tîm yn ymgynghori’n gyson â staff Geiriadur Prifysgol Cymru, sydd hefyd yn rhan o’r Ganolfan, ac yn pori yn eu casgliadau.
Yn olaf, ond nid lleiaf, byddwn yn ymgynghori â Richard Morgan, archifydd yn Archifau Morgannwg sydd wedi cyhoeddi llawer ar enwau lleoedd dwyrain Cymru, ac awdur y gyfrol Welsh Place-Names of Shropshire a ymddangosodd yn y lle cyntaf yn 1988. Bydd ein gwaith ni yn ymgorffori fersiwn diwygiedig o’r astudiaeth hon, a bydd cyngor profiadol Richard yn sicr yn gyfraniad mawr i’r gyfrol drwyddi draw. Disgwylir y bydd y llyfr yn barod i’w gyhoeddi cyn diwedd 2016.
The project-team at CAWCS comprised Helen Watt, experienced archival researcher, whose credits included Welsh Manors and their Records (2000) and work on a digital edition of Edward Llwyd’s correspondence, and David Parsons, Deputy Director of the Survey of English Place-Names and former Director of Nottingham’s Institute for Name-Studies. PhD student Emily Pennifold also contributed to the project, and her thesis on ‘Post-medieval field-names on the Anglo-Welsh border’ provided a detailed case-study of much of Oswestry hundred. The research was based on materials bequeathed to us by Margaret Gelling and her collaborator George Foxall, and on documents from the National Library of Wales and Shropshire Archives; the team also benefited from help provided by the staff of the Geiriadur Prifysgol Cymru, also based at CAWCS, and their collections.
We also worked with Richard Morgan, archivist at Glamorgan Archives, who has published extensively on place-names in east Wales, and whose Welsh Place-Names in Shropshire was first compiled in 1988. Our work incorporates a revised version of this study, and Richard’s advice and experience will undoubtedly make a major contribution throughout the volume.
