Tirweddau Tanddaearol
Sesiwn anffurfiol, creadigol a thraws-ddisgyblaethol ar y thema Tirweddau Tanddaearol
Ymunwch â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru wrth i ni ddathlu fod Aberystwyth Ceredigion yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru.
Ar 12 Mawrth 2026, 1.30 y.h.–6.00 y.h, cynhelir sesiwn anffurfiol, creadigol a thraws-ddisgyblaethol yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y thema Tirweddau Tanddaearol.
Ceir cymysgedd o ddarlleniadau a chyflwyniadau yn trafod sut y gall gwaith creadigol a hanes diwylliannol hybu prosiectau amgylcheddol, gwyddonol, treftadaeth a chymunedol ar dirweddau mawn a mwyngloddio a phridd. Ymhlith ein siaradwyr bydd beirdd, artistiaid ac haneswyr - Elinor Gwynn, Sean Harris, Ioan Lord a Hilary Davies, gyda chydweithwyr o’r Ganolfan Geltaidd.
Tan 4.30 y.h. ceir digwyddiau byw yn unig; am 5 y.h. bydd yr hanesydd celf Eleanor Stephenson yn rhoi darlith hybrid ar ‘Landscapes of Extraction: Philippe de Loutherbourg and the Morris Family’s Copper Works, Swansea’.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan, ‘Mae byw a gweithio mewn Dinas Llên yn agor posibiliadau newydd cyffrous inni i gyd. Rydym yn falch bod y Ganolfan yn cael y cyfle hwn i gydweithio gydag awduron ac artistiaid i ddarganfod ymatebion unigryw i dirweddau Ceredigion - a thu hwnt.’
Meddai’r Athro Mary-Ann Constantine o’r Ganolfan, ‘Dewch i weld y byd wedi ei droi tu chwith allan! Mae persbectifau tanddaearol yn gorfodi inni ailystyried y tirweddau hardd o’n cwmpas: yn llythrennol, ac yn ddychmygol, rydym i gyd yn ddyledus i hanes dwfn y byd sy’n cuddio dan ein traed.’
Digwyddiad rhad ac am ddim gyda phaned. Cofrestrwch erbyn dydd Llun, 9 Mawrth trwy e-bostio a.elias@cymru.ac.uk.
Croeso cynnes i bawb!
Delwedd: Ioan Rhys Lord