Skip page header and navigation

Y Brifysgol a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn croesawu Dr Jaione Diaz Mazquiaran fel deiliad Cadair Breswyl Alan R King mewn Sosioieithyddiaeth

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn falch o groesawu Dr Jaione Diaz Mazquiaran yn bedwerydd deiliad Cadair Breswyl Alan R King mewn Sosioieithyddiaeth, mewn partneriaeth â Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg

Sefydlwyd y Gadair yn 2022 a’i henwi ar ôl yr ieithydd nodedig, y diweddar Dr Alan R. King, un a wnaeth gymaint i hwyluso’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg. Mae’r Gadair yn gyfle strategol i ymchwilydd o Wlad y Basg ddod i Gymru, er mwyn cryfhau’r cyfnewid a’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, ynghyd â rhannu ymchwil ac ymarfer ym meysydd sosioieithyddiaeth a chynllunio iaith, sydd mor bwysig i’r ddwy iaith.

Arbenigedd Dr Diaz Mazquiaran yw addysg cyfrwng Basgeg, gan ganolbwyntio ar bolisi ac ymarfer mewn ysgolion ble mae canran o’r disgyblion yn dod o deuluoedd mewnfudol. Fel rhan o’i phreswyliad, cyflwynodd ddarlith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dwyn y teitl ‘Iaith, perthyn a daliadau: profiad disgyblion o deuluoedd mewnfudol mewn addysg cyfrwng Basgeg’. Mae’r recordiad ar gael YouTube y Ganolfan: Y Ganolfan Geltaidd / CAWCS - YouTube.

Dr Jaione Diaz Mazquiaran and Professor Elin Haf Gruffydd Jones.

Yn ogystal â’r ddarlith, mae ei rhaglen waith yn ystod ei chyfnod yn cynnwys gweithdai, ymweliadau, cyflwyniadau a seminarau, gan gynnwys sesiwn ar y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Jaione Diaz Mazquiaran atom eleni. Mae hi’n ysgolhaig dawnus sydd wedi astudio mewn sawl prifysgol ar draws y byd ac wedi cwblhau prosiect hynod amserol a gwerthfawr. Bydd y preswyliad hwn yn gyfle iddi rannu ei canlyniadau ei hymchwil gyda ni ynghyd â chreu cysylltiadau yma yng Nghymru wrth iddi ddatblygu ei gyrfa dros y blynyddoedd nesaf.

Yn sicr, mae’r Gadair hon wedi ennill ei phlwyf a’r cysylltiadau rhwng ymchwilwyr o Gymru ac o Wlad y Basg ym maes Sosioieithyddiaeth wedi cryfhau o ganlyniad iddi. Croesawyd Dr Imanol Larrea yn 2022, Dr Harkaitz Zubiri yn 2023 a Dr Mike Gartziarena llynedd ac mae’r tri yn parhau i gydweithio ag ymchwilwyr o sawl prifysgol yng Nghymru yn dilyn eu cyfnod yn y Gadair Alan R King.”

Meddai Dr Monika Madinabeitia, Cyfarwyddwr Hyrwyddo’r Iaith Fasgeg yn Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg, “Mae Cadair Alan R. King yn darparu platfform rhagorol ar gyfer meithrin cyfnewid academaidd, ymchwil gydweithredol, a myfyrio ar bolisi iaith a strategaethau adfywio y cymunedau Cymreig a’r cymunedau Basgeg.”

Meddai Dr Jaione Diaz Mazquiaran, deiliad Cadair Alan R King 2025, “Mae cael fy nerbyn i Gadair Alan R. King mewn Sosioieithyddiaeth 2025 wedi bod yn brofiad hynod werthfawr i mi fel ymchwilydd ac addysgwr gyrfa cynnar. Mae wedi rhoi cyfle unigryw i mi rannu a thrafod canfyddiadau ymchwil fy noethuriaeth mewn cyd-destun amlieithog lle mae’r Gymraeg, fel iaith fywiog, yn chwarae rôl mor ganolog. Mae gweithio yn yr amgylchedd hwn wedi fy ngalluogi i ymgysylltu a dysgu oddi wrth fentrau ysbrydoledig ym maes cynllunio ac adfywio iaith, i gyfnewid syniadau gyda chydweithwyr, ac i gyfrannu at gryfhau’r cysylltiadau rhwng Gwlad y Basg a Chymru. Ochr yn ochr â fy narlith a’r seminarau gwadd, rwyf hefyd yn dysgu Cymraeg, yn cael cyfle i gwrdd â rhanddeiliaid sy’n hyrwyddo ac yn diogelu ei defnydd ar draws gwahanol feysydd, ac yn rhannu safbwyntiau ac adnoddau gydag ymchwilwyr lleol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Chanolfan Gwên, canolfan drochi iaith yn Sir Gaerfyrddin, er mwyn cyd-rannu datblygiadau a heriau addysg drochi yng Nghymru a  Gwlad y Basg. Byddaf hefyd yn achub ar y cyfle i arsylwi gwaith maes Prosiect BRO, i ddysgu rhagor am yr arolwg sosioieithyddol cynhwysfawr hwn o gymunedau Cymraeg cyfoes. Mae ymweld â gwahanol rannau o Gymru a phrofi ei threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog wedi gwneud y gymrodoriaeth hon nid yn unig yn garreg filltir academaidd ond hefyd yn daith hynod bersonol a gwerthfawr.”