Skip page header and navigation

Archif Gwydr Lliw Abertawe

Swansea Stained Glass

Detail of a panel of stained glass.

Ymchwil ar archif gwydr lliw yn y Coleg Celf, Abertawe

Gwydr Lliw Abertawe – Crynodeb

Ers y 1950au, mae’r cwrs gwydr lliw pensaernïol yn Abertawe wedi bod yn ddylanwad trawsffurfiol a rhyngwladol ar y modd y caiff crefft gwydr lliw ei dysgu a’i hymarfer. Dros y degawdau, mae casgliad wedi tyfu o gannoedd o baneli arddangos a chystadlu’r myfyrwyr, ac mae hyn yn cynnwys gwaith gan artistiaid enwog sy’n gyfrifol am wydr lliw a gwydr pensaernïol arloesol dros y byd i gyd. Mae’r archif hefyd yn adlewyrchu’r ystod o dechnegau a gâi eu dysgu a dylanwad yr artistiaid a fu’n addysgu yno, yn ogystal ag artistiaid gwadd, yn arbennig yr Almaenwyr a fu’n ymweld yn ystod y 1970au a’r 80au, fel Ludwig Schaffrath, Johannes Schreiter a Jochem Poensgen.

Mae catalog ar lein chwiliadwy o’r paneli gwydr lliw hyn wedi ei baratoi gan Martin Crampin, mewn cydweithrediad â’r artist Christian Ryan o Goleg Celf Abertawe.