Skip page header and navigation

Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru 1750–2010

Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru 1750–2010

Menai Suspension Bridge and European luggage labels.

Prosiect ar y cyd a gyllidwyd gan yr AHRC

Manylion y Prosiect

Roedd ‘Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru 1750–2010’ yn brosiect tair blynedd a gyllidwyd gan yr AHRC ac a ddechreuodd yn 2013. Yn y prosiect, gwelwyd cydweithio rhwng Yr Athro Carol Tully o Brifysgol Bangor, Dr Kathryn Jones o Brifysgol Abertawe, a Dr Heather Williams o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Ymchwiliodd y prosiect i amrywiaeth eang o ffynonellau, yn cynnwys taithlyfrau, arweinlyfrau, dyddiaduron, llythyrau a blogiau, mewn llawysgrifau a deunydd printiedig. Darganfu’r ymchwilwyr amrywiaeth mawr o resymau dros i deithwyr Ewropeaidd ddod i Gymru. Roedd rhai’n chwilio am ddihangfa ramantaidd ac eidylaidd, roedd eraill yn ysbiwyr diwydiannol yn oes Fictoria, ac yn ddiweddarach gwelwyd ffoaduriaid o’r Almaen Natsiaidd. 

Cynhyrchwyd gwefan a cronfa ddata y gellir ei chwilio gan y prosiect.

Mae’r gronfa ddata ‘Accounts of travel’ yn cynnwys crynodebau o gofnodion ar gyfer dros 400 o destunau taith am Gymru gan ymwelwyr Ewropeaidd o’r tu allan i Ynysoedd Prydain ers 1750.

Dechreuodd y prosiect dilynol, o’r enw ‘Teithwyr i Gymru’, yn 2017 a gyllidwyd hefyd gan yr AHRC. Roedd y prosiect yn cynnwys Prifysgol Bangor (Yr Athro Carol Tully, Prif Ymchwilydd), Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Dr Heather Williams, Cyd-ymchwilydd), y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Visit Wales.