Skip page header and navigation

Yr Iaith Gymraeg

Yr Iaith Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn sicrhau bod i’r Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Golyga hyn na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae hefyd yn fodd o sefydlu fframwaith cyfreithiol sy’n gosod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau ymddygiad yn ymwneud â’r Gymraeg.Mae Safonau’r Gymraeg yn cymryd lle system y cynlluniau iaith Cymraeg, a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Set o ofynion cyfreithiol yw’r Safonau sydd â’r nod o wella’r gwasanaethau dwyieithog y gall pobl Cymru eu disgwyl gan nifer o gyrff cyhoeddus a statudol, gan gynnwys prifysgolion a cholegau. Mae’r Safonau’n esbonio sut y disgwylir i sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd. 

Golyga’r dyletswyddau sy’n deillio o’r safonau na ddylai sefydliadau drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg (gan ei gwneud hi’n haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd).

Nod y Safonau yw:

  • ei gwneud hi’n eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau o ran y Gymraeg
  • ei gwneud hi’n fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
  • sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd.

Gyda’i gilydd, ceisia Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gydymffurfio â’r Safonau canlynol:

  • Cyflenwi Gwasanaethau
  • Llunio Polisi
  • Gweithredol
  • Cadw Cofnodion