Skip page header and navigation

Cyflwyniad

  • Dydd Gwener 20 Medi 2024

  • 10.00–5.30

  • Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Aberystwyth

Diwrnod o drafodaethau a chyflwyniadau gan brosiect y Teithwyr Chwilfrydig. Dewch i glywed am ein gwaith yn creu golygiadau digidol o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban, am y bywgraffiad newydd i Pennant, am y cynllun i dorfoli delweddau gan Moses Griffith yn y Llyfrgell Genedlaethol, am yr arddangosfeydd a gynhaliwyd yn Nyffryn Maes Glas a’r prosiect celf mewn ysgol gynradd yn Chwitffordd, heb sôn am y rhagolygon cyffrous sydd i gasgliadau Pennant yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur, ac i lansio dau lyfr!

Cynhelir y digwyddiad yn hybrid. Bydd ffi gofrestru o £10 ar gyfer y rhai sy’n mynychu’n fyw, i dalu am baned a chinio bys a bawd. I gadw lle / cael linc zoom cysylltwch ag: a.elias@cymru.ac.uk

Rhaglen

9.45: Cyrraedd a phaned

I:  Golygu Pennant: Golygiadau Digidol o’r Teithiau yng Nghymru a’r Alban    

10.00–11.30

  • Mary-Ann Constantine (CAWCS): Croeso a chyflwyniad

  • Ffion Mair Jones (CAWCS): ‘O lawysgrif i brint: Teithiau Pennant ym Meirionnydd ac Eryri (1770–81)’ 

  • Alex Deans (Glasgow): ‘“My thirst after natural history is unquenchable”: Thomas Pennant’s letters to Charles Lyttelton, Bishop of Carlisle (1768)’

  • Nigel Leask (Glasgow): ‘What’s happened to the Scottish Enlightenment in Pennant’s Tours?’

Trafodaeth

11.30: Seibiant am ddeng munud

II: Pennant a Diwylliant Gweledol

11.40–12.30

Cadeirydd: Martin Crampin (CAWCS) 

Lisa Cardy (Amgueddfa Astudiaethau Natur), Luca Guariento (Glasgow), Eilir Evans (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Cyflwyno prosiect torfoli i dagio delweddau o gopïau addurnedig o Deithiau Thomas Pennant.

12.30–1.30: Cinio bys a bawd yn y Ganolfan Geltaidd a chyfle i rai o weithiau Pennant yn yr Ystafell Summers, LlGC

III: Pennant yn ei Ieuenctid a’i Henaint

1.30–3.00

  • R. Paul Evans: ‘The 1750s – the neglected, yet career defining, decade in the life of Thomas Pennant’

  • Michael Freeman: ‘Paid for rejoycing at Holywell upon my son’s marriage’: the account book of David Pennant of Downing, 1756–61’

  • Rhys Kaminski-Jones (CAWCS): ‘Doctor Druid and the Druids of India’

Trafodaeth

3.00–3.30: Paned a phice bach

IV: Pennant y Naturiaethwr

3.30–4.20

  • Stephanie Holt (NHM): ‘Recovering the Pennant Collections at the National History Museum’

  • Edwin Rose (Cambridge/NHM): ‘Working from Home: Thomas Pennant and the Arctic Zoology’

Trafodaeth

4.20: Seibiant am ddeng munud

V: Pennant yn ei Fro

4.30–5.15

  • Sarah Baylis: ‘Flintshire’s best kept secret? Pennant in the community’

  • Elizabeth Edwards and Sean Harris: ‘Making C21st Pennant – copperplate to classroom’

  • Mary-Ann Constantine: Diolch a chloi

5.30: Derbyniad gwin a lansiad yn CAWCS

  • Mary-Ann Constantine, Curious Travellers: Writing the Welsh Tour 1760–1820 (OUP, 2024)

  • Sean Harris et al., A Whitford Ornithology (CAWCS Publications, 2024)

Print o lyfr o’r ddeunawfed ganrif sy’n dangos llethr goediog yn gostwng i lawr at gaeau; y tu hwnt iddynt mae bryn yn codi’n serth i fyny i gopa lle saif olion castell Dinas Brân.
Dinas Brân gan Moses Griffith (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Cydnabyddiaethau

Ariennir prosiect y Teithwyr Chwilfrydig gan yr AHRC ac fe’i cynhelir ar y cyd rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Prifysgol Glasgow a’r Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain.  

Logos: Cyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Glasgow, Amgueddfa Hanes Naturiol, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.