Skip page header and navigation

Byrllysg y Brifysgol

Byrllysg y Brifysgol

Cyflwynwyd byrllysg y Brifysgol gan Gorfforaeth Dur Prydain ym mis Mehefin 1985.

Mae’r byrllysg wedi ei wneud o ddur gloyw ac addurniadau aur. Ar y pen ceir coronig, wedi ei leinio â felfed mwrrai, a chroes geltaidd hynafol yn sefyll ar ddarnau croes y goronig. Mae i’r goronig wyth wyneb, ac arnynt (mewn aur) arfbais y Brifysgol a’r saith sefydliad cyfansoddol a oedd gan y Brifysgol ar y pryd, sef Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor; Coleg Prifysgol Caerdydd; Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST); Prifysgol Cymru Abertawe; Ysgol Feddygol Cymru a Choleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Ar flaen a chefn adran fawr y pen mae arfau’r Brifysgol wedi eu hysgythru (mewn aur). Silindraidd yw coes y byrllysg a’r adran ganol wedi ei hysgythru ar y blaen a’r cefn â dyfais Corfforaeth Dur Prydain.

Gwaith Prentisiaid Peirianneg Corfforaeth Dur Prydain yng Ngwaith Llan-wern, Casnewydd, oedd y byrllysg, sydd ryw dair troedfedd o hyd. Bu myfyrwyr rhyng-gyrsiau UWIST, a oedd ar leoliad yng Ngwaith Llan-wern, hefyd yn ymwneud â’r cynhyrchu.