Skip page header and navigation

Gynau a Chyflau

Gynau a Chyflau

Bydd diplomedigion, deiliaid Graddau Sylfaen, Baglorion ac Athrawon yn gwisgo gŵn du o stwff neu o sidan ar y patrwm sy’n draddodiadol ar gyfer y dyfarniadau hyn.

Yn anffurfiol, bydd Doethuriaid yn gwisgo gŵn du o stwff neu o sidan, ar y patrwm cyffredin. Yn ei wisg lawn bydd Doethur mewn Athroniaeth yn gwisgo gŵn o frethyn rhuddgoch, y llewys llawn wedi eu torchi wrth yr ymyl flaen, a ffesinau a leininau sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran yr enillwyd y radd ynddi; gŵn o frethyn ysgarlad a wisgir gan ddeiliaid graddau doethur hŷn, ac iddo lewys llawn sydd wedi eu torchi wrth yr ymyl flaen, a ffesinau a leininau sidan ym mhriod liwiau’r Cyfadrannau perthnasol.

Cwfwl ar batrwm Rhydychen sydd gan ddeiliaid tystysgrif (gan gynnwys dyfarniadau TAR), diplomedigion a deiliaid Graddau Sylfaen, a hwnnw o stwff neu o sidan du, gydag ymylon du. Mae i’r cwcwll a’r band gwddf ymylon o gordyn tro yn lliwiau corfforaethol y Brifysgol, sef mwrrai, glas y llynges ac aur.

Cwfwl ar batrwm Rhydychen sydd gan Faglor, a hwnnw wedi ei wneud o stwff neu sidan du, ac eithrio yn y Gyfadran Gerddoriaeth, lle y maent wedi eu gwneud o sidan glas tywyll. Ym mhob Cyfadran, ac eithrio’r Gyfadran Feddygaeth, mae i gyflau’r Baglorion ymyl o sidan ym mhriod liw y Gyfadran; yn y Gyfadran Feddygaeth mae iddynt leinin o sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran, gydag ymylon gwyn (Meddygaeth a Llawfeddygaeth) neu borffor (Deintyddiaeth).

Cwfwl ar batrwm Caer‑grawnt sydd gan Athro, a hwnnw wedi ei wneud o sidan du, ac eithrio yn y Gyfadran Gerddoriaeth, lle y maent wedi eu gwneud o sidan glas tywyll. Mae cwfwl Athro wedi ei leinio â sidan ym mhriod liwiau’r Cyfadrannau perthnasol. Yn ychwanegol, mae i gwfwl Athro mewn Athroniaeth ymyl ruddgoch ac i gwfwl Athro mewn Llawfeddygaeth ac Athro mewn Gwyddoniaeth Ddeintyddol ymyl wen ac ymyl borffor yn y drefn honno. Yng nghwfwl Athro Ymchwil ceir leinin o sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran y dyfarnwyd y radd ynddi.

Cwfwl ar batrwm Caer-grawnt sydd gan Ddoethur, a hwnnw wedi ei wneud o frethyn ysgarlad, ac eithrio yn achos Doethur mewn Athroniaeth, sydd â chwfwl o frethyn rhuddgoch. Yng nghwfwl Doethur ceir leinin o sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran yr enillwyd y radd ynddi, ac mae i gwfwl Doethur mewn Meddygaeth ymyl wen hefyd.

Cwfl ar batrwm Caer-grawnt sydd gan Ddoethur y Brifysgol (a ddyfernir honoris causa ). Fe’i gwneir o frethyn glas, a’i leinio â sidan ysgarlad y llynges a cheir ymyl o gordyn dirdro o liwiau corfforaethol y Brifysgol, sef mwrrai, glas y llynges ac aur.

Dyma briod liwiau’r Cyfadrannau:

  • BA, MA, DLitt Glas masarin wedi ei wehyddu gyda gwyrdd

    BLib, MLib Glas masarin wedi ei wehyddu gyda gwyrdd, ac ymylon gwyn
  • BSc, MMath, MChem, MPhys, MSc,DClinPsy, DSc, DEdPsy Lliw efydd (melyn wedi ei wehyddu gyda du)

    BEng, MEng, EngD Coch wedi ei wehyddu gyda gwyrdd

    BPharm, MPharm Sidan gwehelog llwydlas
  • BMus, MMus, DMus Lliw perl (sidan gwehelog trilliw)
  • LLB, LLM, LLD Coch wedi ei wehyddu gyda phorffor
  • BD, MTh, DD Glas masarin wedi ei wehyddu gyda choch

    BTh Glas masarin wedi ei wehyddu gyda choch, ac ymylon gwyn
  • MB, BCh, MD, MCh Gwyrdd wedi ei wehyddu gyda du, ac ymylon gwyn

    BMedSc Lliw efydd (melyn wedi ei wehyddu gyda du), ac ymylon o wyrdd wedi ei wehyddu gyda du
    BDS, BSD, MScD, DDSc Sidan gwehelog llwydlas, ac ymylon porffor

    BN, MN, DNursSci Gwyrdd wedi ei wehyddu gyda gwyn, ac ymylon coch
    MPH Gwyrdd wedi ei wehyddu gyda du, ac ymylon gwyrdd emrallt
  • BArch Sidan gwehelog o goch ysgarlad
  • BScEcon, MScEcon, DScEcon Coch wedi ei wehyddu gyda melyn

    EMBS, MBA Coch wedi ei wehyddu gyda melyn, ac ymylon glas golau

    MBL Coch wedi ei wehyddu gyda melyn, ac ymylon coch
  • BEd, MEd, EdD Gwyrdd wedi ei wehyddu gyda gwyn

Yn anffurfiol, bydd Baglorion, Athrawon a Doethuriaid yn gwisgo’r cap sgwâr cyffredin. Yn eu gwisgoedd llawn, bydd Doethuriaid yn gwisgo cap tebyg o felfed du ac iddo dasel sidan du.

Gwneuthurwyr Mentyll y Brifysgol (Drwy eu penodi)
Ede and Ravenscroft Cyf, 93 Chancery Lane, Llundain WC2A 1DU (Ffon 020 7405 3906).  Bydd cynrychiolwyr y cwmni yn bresennol yn holl Gynulliadau’r Brifysgol, er mwyn gwisgo’r darpar-raddedigion.

Bathodyn y Brifysgol
Y Darian yn unig yw Bathodyn y Brifysgol. Fe’i gwneir o edau sidan neu edau wifrog o liw mwrrai wedi ei gwehyddu ar gefndir o liw arian. Edau sidan neu edau wifrog o liw ‘aur pŵl’ yw’r wyth seren a’r tair llusern. O dan y Bathodyn ceir y geiriau Goreu Awen Gwirionedd.