Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Croesi Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru

Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Croesi Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru
Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw
Mae pobl wedi bod yn symud rhwng Iwerddon a Chymru ers miloedd o flynyddoedd am resymau masnachol, crefyddol, gwleidyddol, hamdden a chysylltiadau teuluol, a hefyd mewn cyfnodau o ryfel. Profodd ein gwledydd hanes cyffredin a gwahaniaethau dwfn. Mae porth laddoedd ar y ddwy ochr hefyd yn rhannu hanes o dderbyn llafur ymfudol o ddiwyll iannau ac ieithoedd eraill. Rydym wedi archwilio diwylliannau ardaloedd porthladd Dulyn, Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro, er mwyn dod â’r dreftadaeth hon i sylw y cyhoedd, o fewn y cymunedau arfordirol ac ymhlith ymwelwyr.
Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru.
Arweiniodd y Ganolfan ‘Cysylltiadau Creadigol’ y prosiect. Comisiynwyd deuddeg o awduron ac artistiaid i greu amrywiaeth o weithiau a ddangoswyd mewn cyfres o arddangosfeydd, a berfformiwyd ac a gyhoeddwyd mewn pamffledi a chasgliad o’r prosiect.