Cynnwys
14: Gwaith Ieuan Brydydd Hir
| Awdur/Golygydd | M. Paul Bryant-Quinn |
| Cyhoeddwyd | 2000 |
| ISBN | 0947531750 |
| Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
| Pris | £10.00 |
| Maint | 234 x 156mm |
| Fformat | Clawr papur/Paperback, xx+213 |
Ceir yn y gyfrol hon waith Ieuan Brydydd Hir, bardd o Ardudwy ym Meirionnydd a ganai yn ail hanner y bymthegfed ganrif. Cadwyd tair ar ddeg o gerddi y credir eu bod yn waith dilys Ieuan, ac yn ogystal â’r rhain golygir yma mewn atodiadau ddwy gerdd amheus eu hawduraeth a thri chywydd ymryson o waith Tudur Penllyn. Cerddi crefyddol yw’r mwyafrif o’r cerddi sydd wedi goroesi: yn ganu penydiol, yn foliant i gysegrfannau (megis crogau Aberhonddu, Caer a ffynnon Gwenfrewy) ac yn fyfyrdod cofiadwy ar arwyddocâd bywyd a dioddefaint gan y bardd drwy gyfrwng ei grefft farddol a delweddau ei ffydd.
Allan o brint.