Cynnwys
16: Gwaith Hywel Swrdwal a’i Deulu

Awdur/Golygydd | Dylan Foster Evans |
Cyhoeddwyd | 2000 |
ISBN | 0947531904 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xx+244 |
Cyhoeddir yn y gyfrol hon waith Hywel Swrdwal a’i ddau fab, Ieuan a Dafydd. Y mae eu canu yn gwbl nodweddiadol o ganu’r bymthegfed ganrif. Canu mawl a marwnad uchelwyr yw’r rhan fwyaf ohono, ac y mae’n amlwg fod y teulu yn ymuniaethu â dosbarth o uchelwyr yn y Mers a oedd yn Iorciaid o ran teyrngarwch ac yn perthyn yn agos ar lefel deuluol. O ganlyniad, y mae’r cerddi yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer hanes y cyfnod, yn enwedig cerddi megis marwnad Wiliam Herbert o Raglan a marwnad ei hanner brawd, Watgyn Fychan. Yn y ddwy gerdd hyn y gwelir teimladau gwladgarol y beirdd yn fwyaf amlwg wrth iddynt ddatgelu llawer o’u syniadau a’u rhagfarnau.
Allan o brint.