Skip page header and navigation

Mentyll a Regalia

Arfau ac Arflun

Disgrifir arfbais y brifysgol fel a ganlyn:

Yr Arfau:
Arian yw lliw’r Arfau, a’r llun a welir yw Rhibyn o liw Mwrrai ac arno dair Llusern Ganoloesol Aur, oll o fewn Bordor o’r ail liw ac arno wyth Seren o’r trydydd lliw.

Yr Arflun:
Ar Dorch yn y Lliwiau uchod gwelir Draig Goch yn sefyll a’i chrafanc ddehau yn pwyso ar Lyfr Agored yn ei briod liw ac arno’r geiriau Goreu Awen Gwirionedd.

Mae’r llusernau yn y cynllun yn dynodi’r tri Choleg Cyfansoddol a oedd yn bod pan sefydlwyd y Brifysgol ym 1893. Cynrychioli’r elfennau a ffurfiodd Lys gwreiddiol y Brifysgol y mae’r wyth seren.

Gellir cymryd bod y geiriau o dan y darian, Scientia Ingenium Artes , yn cydgrynhoi nodweddion yr efrydydd delfrydol a thri o brif feysydd astudio prifysgol (Y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Pheirianneg).

Geiriau arwyddair y Brifysgol, Goreu Awen Gwirionedd, yw’r geiriau sydd i’w gweld ar y llyfr.