Skip page header and navigation

Arwyddocâd Gwydr Lliw

Prosiect ymchwil newydd yn archwilio rôl gwydr lliw mewn cymunedau lleol

Mae gwydr lliw o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn nodwedd amlwg mewn llawer o addoldai, ond yn aml mae’n cael ei anwybyddu a’i gamddehongli. Gellir dod o hyd iddo mewn pob math o adeiladau eraill yn ogystal, o neuaddau pentrefi i theatrau a phlasdai, ac mewn ffurfiau newydd amrywiol o fewn pensaernïaeth fodern. 

Mae gwydr lliw hefyd yn fwyfwy mewn perygl wrth i’r adeiladau sy’n ei gartrefu gau neu newid defnydd. Mae asesu arwyddocâd yn rhan hanfodol o reoli newid ar gyfer adeiladau hanesyddol a bydd y prosiect ymchwil hwn yn darparu ffyrdd newydd o werthuso gwydr lliw i helpu i flaenoriaethu cyllid ar gyfer cadwraeth. 

Dywedodd Dr Martin Crampin, Arweinydd y Prosiect: “Mae camddealltwriaeth ysgubol wedi ffurfio ein rhagdybiaethau am wydr lliw ac wedi dylanwadu’n negyddol ar ein canfyddiad ohono fel celf. Mae cymaint ohono o ansawdd uchel ac nid yw wedi cael ei werthfawrogi. Oherwydd bod cyn lleied o astudiaeth wedi bod o’r cyfrwng, nid yw esiamplau prin wedi cael eu cydnabod ac weithiau maent mewn perygl. Ar yr un pryd, mae cymaint o straeon y tu ôl i wydr lliw, o ystyried eu rôl mewn coffáu, ac maent yn darparu cysylltiadau â hanesion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gallant hefyd helpu cymunedau i ddatblygu naratifau ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol a chrefyddol i ddod ag ymwelwyr i eglwysi hanesyddol.”

Gan ddatblygu ar seiliau’r ymchwil a wnaed ar wydr lliw yng Nghymru gan Martin Crampin yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd dros nifer o flynyddoedd, bydd y prosiect yn dyfnhau ein dealltwriaeth o wydr lliw yng Nghymru a hefyd yn arloesi trwy arolwg newydd o wydr lliw mewn rhannau cyfagos o Loegr ac yn Lerpwl. Gellir dod o hyd i waith gan lawer o’r un artistiaid, dylunwyr a stiwdios ledled Prydain, Iwerddon ac yn fyd-eang, gan wneud yr ymchwil yn berthnasol yn rhyngwladol.  

Cefnogir y prosiect yn ariannol gan Gyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau yr UKRI, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, a bydd yn cydgweithio â Cadw yng Nghymru, Historic England ac Adran Adeiladau Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi Eglwys Lloegr.

Ymchwil flaenorol ar wydr lliw yng Nghymru yn y Ganolfan