Gwydr Lliw yng Nghymru

Ymchwil ar wydr lliw yng Nghymru
Gwydr Lliw yng Nghymru – crynodeb
Mae ffenestri lliw i’w gweld yn y rhan fwyaf o gymunedau – mewn addoldai fel arfer. Ambell waith, caiff y rhain eu trysori gan gymunedau a chynulleidfaoedd lleol, ond yn aml mae cryn anwybodaeth am eu harwyddocâd diwylliannol ac o safbwynt hanes celf.
Fel arfer, bydd pwysigrwydd gwydr lliw o’r Oesoedd Canol yn cael ei gydnabod, ond ffenestri mwy modern yn cael eu hanwybyddu oherwydd fod cymaint ohonynt wedi eu cynhyrchu yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r math hwn o wydr lliw hwn yn rhoi presenoldeb gweledol a materol i gannoedd o adeiladau sy’n gynrychioladol o’n treftadaeth bensaernïol. Mae ffenestri gwydr lliw yn adlewyrchu naratifau hanesyddol a diwylliannol unigryw mewn ffurf weledol drawiadol, yn ogystal â choffáu noddwyr lleol a hanes crefyddol a sifig. Dyma gynnyrch artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr, sydd fel arfer wedi bod yn gweithio ar y cyd ac sydd hefyd wedi allforio eu gwaith i bedwar ban byd.
Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, roedd i Gymru le pwysig o ran cynhyrchu gwydr lliw pensaernïol a oedd yn arloesi, a hynny’n bennaf o ganlyniad i waith yr Adran Gwydr Lliw Pensaernïol a sefydlwyd yn Abertawe. Mae rhai o gyn-fyfyrwyr o Goleg Celf Abertawe wedi dod i fri rhyngwladol, a rhai yn parhau i weithio yma yng Nghymru a’u cynnyrch i’w ganfod mewn nifer o adeiladau gwahanol.
Mae ymchwil helaeth i’r maes wedi bod ar y gweill yn y Ganolfan ers bron i ugain mlynedd bellach, gan esgor ar lawer o gyhoeddiadau a chatalog ar lein helaeth. Sefydlwyd y prosiect ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ yn 2009 gyda’r nod o ddatblygu’r gronfa ddata ar lein a grëwyd yn rhan o brosiect AHRC ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, a gynhaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan rhwng 2005 a 2008.
Tynnodd Martin Crampin ffotograffau o gannoedd o ffenestri lliw ar gyfer y prosiect hwn a’u cynnwys yng nghronfa ddata ar lein y prosiect. Mewn cydweithrediad â’r ymgynghorydd Nigel Callaghan o gwmni Technoleg Taliesin, cafodd y gronfa ddata hon ei thrawsnewid i fod yn un a allai ddal casgliadau lluosog o ddeunyddiau y gellid eu cyhoeddi fel gwefannau ar wahân. Mae’r gwefannau hyn yn rhannu deunydd cyffredin fel bywgraffiadau artistiaid, nodiadau ar leoliadau a gweithiau celf sy’n berthnasol i ragor nag un casgliad. Arweiniodd hyn at ffurfio catalog ar wydr lliw yng Nghymru, a lansiwyd yn 2011, ac at gasgliadau pellach o ddeunydd gweledol perthnasol i Gymru – yn benodol felly, yr archif o wydr lliw yng Ngholeg Celf Abertawe a delweddau o seintiau yng Nghymru.
Tynnwyd ffotograffau o gannoedd o ffenestri ychwanegol a’u cynnwys yng nghatalog ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ yn ystod 2010–11, gyda chymorth Cronfa Diwydiannau Cymreig Prifysgol Cymru, Ymddiriedolaeth y Pererinion, Sefydliad Garfield Weston a Chyfeillion yr Eglwysi Digyfaill. Ehangodd hyn ystod y deunydd i gynnwys gwrthrychau y tu hwnt i’r Beibl, megis seintiau Cymreig a gweithiau haniaethol, yn ogystal â chwmpasu, ar y naill law, wydr canoloesol o Gymru ac, ar y llall, waith cyfoes – dau faes a oedd y tu allan i ddyddiadau’r prosiect AHRC (sef 1825–1975).
Er i’r prosiect ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ ddod i ben yn swyddogol ym mis Hydref 2011, mae Martin Crampin wedi dal ati i briodoli a dyddio gwydr lliw ledled y wlad a chanfod gwybodaeth ychwanegol am y gwneuthurwyr sy’n gyfrifol am y cyfoeth o wydr lliw a geir yng Nghymru. Mae deunydd pellach wedi ei gofnodi wrth iddo ymchwilio ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau, ac mae’r adnodd yn parhau i dyfu, gydag ychwanegiadau a gwelliannau’n cael eu hariannu gan Ymddiriedolaeth y Gwydrwyr ac Ymddiriedolaeth Gibbs. Arferai’r adnodd gael ei letya gan ein partneriaid yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond mae’r Ganolfan ei hun bellach yn gyfrifol am hynny, ac mae’r prosiect yn parhau i elwa o gymorth technegol Nigel Callaghan.
Cafodd amcanion y prosiect ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ eu hymestyn gyda chyhoeddi Stained Glass from Welsh Churches gan Martin Crampin yn 2014. Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o astudiaethau llai ar wydr lliw mewn addoldai unigol, ac, ar gynfas mwy eang, ar wydr lliw o bob cyfnod.