Skip page header and navigation

Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau

Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau

Late Bronze Age swords from Huelva

Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau: Cwestiynau am Iaith Gyffredin

Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau

Dyfarnwyd grant o £689,167 gan Gyngor Ymchwil y Dyniaethau a’r Celfyddydau (AHRC) i ariannu’r prosiect tair blynedd yma. O dan arweiniad y Prif Ymchwilydd (Arweinydd y Prosiect) yr Athro John T. Koch yn y Ganolfan, gyda’r Cyd-Ymchwilwyr yr Athro Syr Barry Cunliffe (Prifysgol Rhydychen), yr Athro Raimund Karl (Prifysgol Bangor), a Paul Vetch (Coleg y Brenin Llundain), daeth y prosiect â thystiolaeth archaeolegol a ieithyddol o Gymru, y DU a gwledydd eraill ar ffasâd Iwerydd Ewrop at ei gilydd ac yn ei gwneud yn hygyrch.

Yn ogystal â gwefan ryngweithiol yn dangos yr wybodaeth archeolegol ac ieithyddol ar fapiau graddadwy, cynhyrchodd y prosiect trosolygon newydd o’r Oesoedd Copr ac Oes Efydd Iberia ac Iwerddon a chyfres o gyfrolau amlddisgyblaethol aml awdur. Lansiwyd trosolwg Cymraeg, Hen Fyd Iwerydd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yr Adran Dyniaethau Digidol yng Ngholeg y Brenin Llundain, dan arweiniad y Cyd-Ymchwilydd Paul Vetch, yn gyfrifol am greu’r platfform digidol ar gyfer cronfa ddata Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a gwefan y prosiect.