Celfyddyd Cerrig, Ewrop Môr Iwerydd, Geiriau a Rhyfelwyr

Celfyddyd Cerrig, Ewrop Môr Iwerydd, Geiriau a Rhyfelwyr
Celfyddyd Cerrig, Ewrop Môr Iwerydd, Geiriau a Rhyfelwyr
Celfyddyd Cerrig, Ewrop Môr Iwerydd, Geiriau a Rhyfelwyr: prosiect trawsddisgyblaethol dros bedair blynedd (2019–23)
Hällristningar,språk och maritim interaktion i Atlantiska Europa
Roedd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â chyfnod o gyswllt rhwng Sgandinafia a rhanbarth orllewinol Môr Iwerydd yn ystod Oes yr Efydd. Fe’i hariannwyd gan Gyngor Ymchwil Sweden [Vetenskapsrådet] a’i arwain o Brifysgol Göteborg gan yr Athro Archaeoleg Johan Ling, gyda’r Athro John Koch o’r Ganolfan yn gyd-arweinydd. Roedd y gwaith ym mlwyddyn gyntaf y prosiect yn cynnwys gwneud sganiau 3D o feini coffa ‘rhyfelwyr’ o Oes yr Efydd a gedwir mewn amgueddfeydd rhanbarthol yn Badajoz a Cáceres yn ne-orllewin Sbaen. Mae rhai o’r cerrig hyn yn cynnwys arysgrifau mewn Tarteseg yn ogystal. Cafodd y meini hyn eu cynnwys yng nghronfa ddata Archif Ymchwil Celfyddyd Cerrig Sweden – Svenskt Hällristnings Forsknings Arkiv (SHFA) – a’u cymharu â’r miloedd o baneli o gelfyddyd cerrig Sgandinafaidd a oedd eisoes ar gael yno, ac i gyd-fynd â’r gwaith gwnnw cafwyd rhyngwyneb Sbaeneg newydd i’r gronfa.
Tîm y prosiect
Yr Athro Johan Ling (Prif Ymchwilydd, Göteborg, a Chyfarwyddwr SHFA)
Yr Athro John Koch (Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru)
Dr Marta Díaz-Guardamino (Durham a Göteborg)
Dr Bettina Schulz-Paulsson (Göteborg)
Dr Christian Horn (Göteborg)
Celto-Germanic
Astudiaeth yw Celto-Germanic o’r eirfa etifeddedig sy’n gyffredin dim ond i’r ieithoedd Celtaidd a Germanaidd ac i ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill gogledd a gorllewin Ewrop. Canolbwyntir ar gysylltiadau a datblygiadau cyffredin yn y cyfnod cynhanes, a hepgorwyd geiriau sy’n dangos nodweddion o fod yn eiriau benthyg y gellir eu dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid neu’r Oesoedd Canol. Mae’r rhan fwyaf o’r casgliad sy’n weddill yn rhagddyddio Deddf Grimm, ac mae hyn, ynghyd â meini prawf ieithyddol eraill, yn gyson â’r cyd-destun fel yr oedd cyn ~500 CC. Mae’r eirfa Gelto-Germaneg – fel y motiffau sy’n gyffredin i feini coffa ar Benrhyn Iberia a chelfyddyd cerrig yn Sgandinafia – yn taflu goleuni ar ryngweithio a gaed dros bellteroedd maith yng nghyfnodau mwy diweddar cynhanes, ac yn codi cwr y llen ar Oes yr Efydd yng ngogledd-orllewin Ewrop. Gellir dadansoddi llawer o’r stoc geiriau fel rhai a oedd yn gyffredin i dafodieithoedd a oedd yn dal i fod yn ddealladwy i’w gilydd yn hytrach na rhai a fenthyciwyd rhwng ieithoedd gwahanol. Yn hyn o beth, mae’r hyn sy’n dod i’r amlwg yn nes at fod yn anadl olaf Proto-Indo-Ewropeg nag yn rhagflaenydd i’r cyfwynebiadau Celteg a Germaneg a welwyd yn ystod Cyfnod y Mudo ôl-Rufeinig ac Oes y Llychlynwyr.
Mae’r cyhoeddiad hwn o 2020 yn cyflwyno rhai o ganfyddiadau’r prosiect trawsddisgyblaethol ‘Celfyddyd Cerrig, Ewrop Môr Iwerydd, Geiriau a Rhyfelwyr’, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil Sweden rhwng 2019 a 2023.