Skip page header and navigation

Y Bywgraffiadur Cymreig

Y Bywgraffiadur Cymreig

Portread.

Y Bywgraffiadur Cymreig

Y Bywgraffiadur Cymreig

Mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn fan cychwyn i bawb sy’n chwilio am wybodaeth fywgraffyddol am bobl ar hyd yr oesoedd y mae eu cyfraniad neu’u hamlygrwydd wedi llunio rhyw agwedd ar fywyd Cymru, yn cynnwys cyfraniadau’r Cymry ar draws y byd.

Mae’n darparu mynediad am ddim i dros 5,000 o erthyglau bywgraffyddol cryno yn Gymraeg a Saesneg, pob un wedi’i ymchwilio a’i ysgrifennu gan awdur arbenigol a enwir yn y testun.

Cyhoeddwyd cyfrolau gwreiddiol y Bywgraffiadur gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. Heddiw, fe’i cyhoeddir arlein yn unig ac ers 2014 fe’i cynhelir a’i datblygir ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (agweddau technegol) a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (cynnwys golygyddol), gyda chefnogaeth y Cymmrodorion. Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol yw’r Fonesig Elan Closs Stephens, y Golygydd yw Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston a’r Golygydd Cynorthwyol yw’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Am resymau diogelwch seibr mae gwefan y Bywgraffiadur bellach yn statig. Gellir cyrchu’r cynnwys o hyd. Bydd erthyglau newydd yn cael eu cyhoeddi dros dro ar safle’r Bywgraffiadur ar wefan Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Bywgraffiadur wedi ceisio adolygu ei gynnwys hanesyddol gan fynd i’r afael ag agweddau ar gynrychiolaeth ar hyd a lled ei weithgareddau. Nod y Prosiect Amrywedd (2023-25) oedd gwella cynrychiolaeth holl amrywedd hanes Cymru yn yr erthyglau a gyhoeddir yn y Bywgraffiadur Cymreig (BC), gyda ffocws arbennig ar rywedd, ethnigrwydd, a ffyrdd newydd o feddwl am ymerodraeth, trefedigaethedd a chaethwasiaeth. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys yr holl erthyglau a gynhyrchwyd at ddibenion y prosiect hwn. Ariannwyd y Prosiect Amrywedd drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.