Skip page header and navigation

Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2025

Bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams ddydd Iau, 10 Ebrill 2025. 

Yn Nyffryn Nantlle y mae Angharad Tomos wedi byw erioed, gan fynychu Ysgol Dyffryn Nantlle, prifysgolion Aberystwyth a Bangor, a’r Coleg Normal. Gradd mewn Cymraeg a Chymdeithaseg sydd ganddi ac M.Phil mewn Hanes. Mae wedi ennill ei bywoliaeth drwy ysgrifennu, gan gyfrannu colofn i’r Herald ers 30 mlynedd. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, ac mae wedi cyhoeddi hanner dwsin o nofelau. Dyfarnwyd Gwobr Goffa Mary Vaughan Jones iddi yn 2009 am ei gwaith gyda Chyfres Rwdlan, sydd wedi goroesi deugain mlynedd. Mae wedi ymgyrchu llawer gyda Chymdeithas yr Iaith, ac mae’n weithgar gyda menter gymunedol Yr Orsaf ym Mhen-y-groes. Yno y mae’n byw gyda’i gŵr a’i mab.

Mae ei darlith, ‘Mary Silyn, Syniad am Stori’, yn deillio o’i nofel ddiweddaraf, Arlwy’r Sêr, sy’n adrodd stori garu Mary a Silyn Roberts, arloeswyr y mudiad addysg i’r gweithwyr (WEA). Mae ei thaid, David Thomas, yn gymeriad yn y nofel hefyd, fel Sosialydd ac athro i oedolion.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Mae hi’n fraint cael gwahodd Angharad Tomos i draddodi Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams eleni. Mae cyfraniad aruthrol Angharad fel awdur toreithiog ac fel ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith yn cwmpasu pum degawd erbyn hyn, a’i dylanwad yn treiddio yn ei milltir sgwâr, yn genedlaethol a thu hwnt i Gymru. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei chroesawu ac at glywed ei darlith.’

Traddodir y ddarlith yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein trwy Zoom, am 5.00 o’r gloch ar 10 Ebrill. 

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell. Bydd paned am 4.30yh. E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.

Croeso cynnes i bawb!

Photographic portrait of Mary Silyn
Mary Silyn
Llun Angharad Tomos ar Faes Eisteddfod Bangor yn cael llofnod T. H. Parry-Williams
Angharad Tomos ar Faes Eisteddfod Bangor yn cael llofnod T. H. Parry-Williams, Awst 1971