Skip page header and navigation

Delweddu'r Beibl yng Nghymru

Delweddu'r Beibl yng Nghymru

Murlun gyda llun o'r Beibl.

Prosiect ymchwil am ddiwylliant gweledol beiblaidd

Delweddu'r Beibl yng Nghymru - rhagymadrodd

Mae’r graddau y mae bywyd a diwylliant Cymru wedi eu clymu’n annatod â’r Beibl yn amlwg yn ehangder y mynegiant gweledol o themâu beiblaidd a geir ar hyd a lled y wlad. Roedd prosiect ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, a ganolbwyntiai ar y cyfnod rhwng 1825 a 1975, yn dadansoddi’r cwestiynau cymdeithasol, gwleidyddol a diwinyddol a godai o’r diwylliant gweledol beiblaidd er mwyn cydnabod ei gyfraniad i dreftadaeth ddeallusol, artistig a diwylliannol y genedl.

Ariannwyd y prosiect gan yr AHRC rhwng 2005 a 2008, a’i arwain gan yr ysgolhaig beiblaidd Martin O’Kane o Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan (sydd bellach yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Câi ei gynnal mewn cydweithrediad â’r Ganolfan yn ogystal â’r Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Ymwelwyd â dros 250 o leoliadau ar hyd a lled Cymru dros gyfnod y prosiect, a thynnwyd ffotograffau o weithiau celf ym mhob cyfrwng a’u catalogio mewn cronfa ddata ar lein. Roedd llawer o’r deunydd hwn mewn addoldai neu mewn casgliadau wrth gefn gan  amgueddfeydd dros y wlad, ac nid oedd y rhan fwyaf ohono erioed wedi ei gyhoeddi o’r blaen. Cynhyrchwyd DVD-ROM oedd yn mynd i’r afael â thrawstoriad o themâu, megis y Beibl a thirwedd Cymru, duwioldeb domestig, a chelf mewn cymunedau crefyddol, gan wneud defnydd o gyfweliadau ag artistiaid ac arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau. Cyhoeddwyd hon yn 2010, ochr yn ochr â chyfrol brint, Biblical Art from Wales, dan olygyddiaeth Martin O’Kane a John Morgan-Guy.

Bu’r prosiect hefyd yn gyfrifol am guradu arddangosfa ar y cyd â John Harvey o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth yn 2008, a honno’n cynnwys paentiadau, darluniau a phrintiau o gasgliad y brifysgol yn ogystal â gwaith newydd yn ymateb i’r naratif beiblaidd mewn ystod eang o gyfryngau gan artistiaid cyfoes.

Mae’r gronfa ddata ar lein wedi parhau i dyfu a channoedd o weithiau celf newydd wedi eu cofnodi gan Martin Crampin – y rhan fwyaf ohonynt o addoldai – a hynny’n rhannol o ganlyniad i’w waith ar wydr lliw yng Nghymru, sy’n dal i fynd rhagddo. Mae’r gronfa bellach yn cynnwys bron i 9,000 o ddelweddau ac yn rhestru bron i 4,000 o eitemau. Mae’n datblygu fwyfwy i ddod yn drysorfa o ddelweddau a gwybodaeth am addoldai sydd wedi cau ers i’r prosiect ddechrau yn 2005.