Cyfraith Hywel

Cyfraith Hywel
Cyfraith Hywel
‘Cyfraith Hywel’ yw’r enw a roddir yn draddodiadol ar gyfreithiau brodorol Cymru a gadwyd mewn dros ddeugain o lawysgrifau sy’n dyddio o ganol y drydedd ganrif ar ddeg i’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r testunau’n priodoli’r gyfraith i’r brenin Hywel ap Cadell o’r ddegfed ganrif a pharhaodd y gyfraith i gael ei harddel mewn rhannau o Gymru hyd Ddeddfau Uno Harri VIII. Dyma faes pwysig sy’n ddrych i gymdeithas Cymru’r Oesoedd Canol ac sy’n ffynhonnell werthfawr i haneswyr o bob math. Mae’r Ganolfan yn cefnogi maes Cyfraith Hywel drwy waith Dr Angharad Elias sy’n gweithio ar astudiaethau testunol o rai o’r llawysgrifau cyfraith ac sy’n Olygydd Cyfraith i Studia Celtica.
Cynhelir cyfarfodydd Seminar Cyfraith Hywel yn y Ganolfan yn flynyddol; nod y seminar yw dod â’r rhai sydd â diddordeb gweithredol yn y gyfraith ynghyd, annog cyhoeddi ysgrifau a llyfrau yn y maes, a meithrin ymchwil yn y genhedlaeth iau. Y Ganolfan yw cartref Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru.
Ar ran Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru, y Ganolfan sy’n dyfarnu Gwobr Hywel Dda. Dyfernir y wobr i bwy bynnag a wnaeth fwyaf i helaethu gwybodaeth am gyfraith a defod y Cymry yn yr Oesoedd Canol, neu a wnaeth fwyaf i daflu goleuni ar eu tarddiad a’u hanes a’r iaith a’r llawysgrifau sy’n ymwneud â hwynt.