Skip page header and navigation

Cyflwyniad

30 Ionawr 2025

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI yn dyfarnu £234,138 i Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar gyfer y prosiect ‘Cymro cyntaf y Dadeni Dysg?: Gutun Owain a diwylliant ysgolheigaidd y gogledd-ddwyrain yn yr Oesoedd Canol diweddar’.

Corff

Bwriad y prosiect newydd a chyffrous hwn, a fydd yn cychwyn ar 1 Mai 2025, yw cyhoeddi golygiadau newydd o gerddi gan y bardd a’r ysgolhaig Gutun Owain, ac archwilio ei gyfraniad i ddysg ei ardal ar drothwy’r Dadeni Dysg.

Roedd Gutun Owain yn un o feirdd amlycaf yr Oesoedd Canol diweddar, ac yn ysgrifydd ac ysgolhaig a ymddiddorai mewn sawl maes gan gynnwys hanes, achyddiaeth a gramadegau barddol. Yn Nudlust, ger Croesoswallt, yr oedd ei gartref, ac roedd yn rhan o rwydwaith o noddwyr ac ysgolheigion eraill a estynnai ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ac a oedd yn cynnwys nid yn unig beirdd ac uchelwyr lleyg dysgedig ond hefyd abadau Sistersaidd Glyn-y-groes a Dinas Basing. 

Mae ysgolheictod Gutun a’i ddylanwad parhaol yn cael ei gydnabod fwyfwy gan ysgolheigion modern, ond nid yw ei farddoniaeth wedi cael rhyw lawer o sylw yn ddiweddar. Nid gweniaith yn unig a geir yn ei gerddi i noddwyr megis yr Abad Tomas Pennant o Ddinas Basing a Threforiaid Bryncunallt a Phentrecynfrig (ger y Waun): datgelir llawer am eu bywydau, eu diddordebau a’u golwg ar y byd. Ochr arall y geiniog, ond yr un mor ddadlennol, yw ei gerddi dychan i feirdd eraill. Bydd y prosiect yn cyflwyno’r cerddi pwysig hyn i gynulleidfa eang am y tro cyntaf, gan amlygu ac archwilio natur ysgolheictod Gutun hefyd. Sut y cyfrannodd ef a’i rwydwaith at baratoi’r tir ar gyfer ffyniant diweddarach dysg y Dadeni yng ngogledd-ddwyrain Cymru? Ac a ddylid ystyried Gutun Owain ei hun yn Gymro cyntaf y Dadeni, yn rhinwedd ei ddiddordebau eang, ei hoffter o ysgolheictod, a’i ddulliau gweithio?

Yn ôl arweinydd y prosiect, Dr Jenny Day, ‘Mae Gutun Owain yn ffigur hynod bwysig a dylanwadol yn nhirwedd lenyddol Cymru’r Oesoedd Cymru ac rydym wrth ein boddau yn cael y cyfle i fynd i’r afael â’i gyfraniad i hanes llên a dysg drwy gyfrwng ei farddoniaeth. Mae cyflwyno ei gerddi i gynulleidfa ehangach yn un o’n prif amcanion ac fe fydd ein holl olygiadau a ffrwyth y prosiect ar gael ar lein. Edrychwn ymlaen hefyd at gydweithio â’r Eisteddfod Genedlaethol a Cadw i amlygu pwysigrwydd Gutun yng nghyd-destun ehangach diwylliant llenyddol y gogledd-ddwyrain.’

Meddai Susan Mason, Pennaeth Dysgu Gydol Oes Cadw: ‘Mae Cadw yn falch iawn o allu cefnogi’r gwaith ymchwil pwysig hwn ar ffigwr mor arwyddocaol yn hanes diwylliannol a llenyddol Cymru. Bydd y prosiect hefyd yn cyfoethogi ein gwybodaeth am y cymeriadau hynny a oedd yn rhan o’n tirwedd artistig a hanesyddol.’

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru: ‘Dyma newyddion gwych ac amserol wrth i ni agosáu at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025. Mae’r prosiect hwn yn bwysig i ni gan ei fod yn amlygu cyfraniad arbennig y gogledd-ddwyrain at ein treftadaeth hanesyddol ac mae’n allweddol fod cenedlaethau heddiw yn ymwybodol o’r etifeddiaeth ac yn ymfalchïo ynddi.’ 

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: ‘Hoffwn longyfarch Dr Jenny Day yn wresog iawn ar y cais llwyddiannus hwn i gronfa Catalydd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Bydd y prosiect yn arloesi yn ei hawl ei hun ac yn adeiladu ar sylfeini’r Ganolfan, ac felly’n amserol wrth i ni ddathlu ein deugain mlwyddiant yn 2025. Dyma dîm campus o ymchwilwyr a phartneriaid i wireddu’r gwaith pwysig hwn.’ 

Meddai’r Athro Elwen Evans KC, Is-ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: ‘Dyma newyddion gwych i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd o fod y cyntaf yng Nghymru, ar draws pob disgyblaeth, i lwyddo gyda’r gronfa newydd hon. Pob dymuniad da i Dr Jenny Day a’r tîm gyda’r prosiect ymchwil arwyddocaol hwn.’

Cynhelir y prosiect rhwng 1 Mai 2025 a 31 Gorffennaf 2027, a bydd y tîm yn cynnwys Dr Jenny Day, Dr Gruffudd Antur a Dr Martin Crampin, gyda’r Athro Ann Parry Owen yn ymgynghorydd. 

Rydym yn cydnabod yn ddiolchgar nawdd yr AHRC, rhan o Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI), ar gyfer y gwaith.

Tîm ar gyfer prosiect Gutun Owain .
Dr Jenny Day, Dr Gruffudd Antur a Dr Martin Crampin, gyda'r Athro Ann Parry Owen