Darlith Graddedigion Prifysgol Cymru Cangen Bangor
Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fydd y siaradwr gwadd mewn noson a gynhelir gan Gangen Bangor o Gymdeithas Graddedigion Prifysgol Cymru.
Ymunwch â ni am noson graff gyda Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wrth iddo archwilio pwnc pwysig Iechyd a Lles yng Ngogledd Cymru. Cynhelir y ddarlith am 6.00pm ddydd Gwener, 23 Hydref 2026, yn Neuadd William Mathias, yn yr Adran Gerdd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hon yn argoeli i fod yn drafodaeth sy’n ysgogi meddwl am y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gofal iechyd a lles ledled y rhanbarth, gan gynnig safbwyntiau gwerthfawr i raddedigion, gweithwyr proffesiynol ac aelodau o’r gymuned ehangach fel ei gilydd.
Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiad diddorol ac amserol hwn.
Yn dod yn 2027:
Bydd Helen Williams-Ellis yn trafod ei llyfr, Catrin o Ferain: Mam Cymru, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru, 5 Chwefror 2027.
Bydd Arwyn Vittle yn trafod ei lyfr, Brwydr ar y Bryn,yn dathlu 50 mlynedd o UCMB ar12 Mawrth 2027.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790