Skip page header and navigation

Tystysgrifau Amnewid

Tystysgrifau Amnewid

O dan yr amgylchiadau a nodir isod yn unig y bydd Prifysgol Cymru yn cyhoeddi tystysgrifau amnewid. Nid yw colli’r dystysgrif dros dro yn rheswm digonol dros roi un newydd. O dan yr amgylchiadau hynny, hwyrach y byddai’n well gennych ystyried y dewis o gael llythyr Cadarnhau Dyfarniad.

Os ydych chi’n difrodi neu’n colli eich tystysgrif, gallwch wneud cais am dystysgrif amnewid am dâl o £30.00.

Er mwyn ymgeisio am dystysgrif amnewid cwblhewch gais ar-lein Tystysgrifau Amnewid lle bydd gofyn i chi gadarnhau bod y dystysgrif ar goll / wedi’i dinistrio cyn y gellir dyroddi tystysgrif amnewid. Codir tâl o £30.00 am y gwasanaeth hwn. 

Lle bo eich tystysgrif wedi ei difrodi, dylid ei dychwelyd i Brifysgol Cymru a chaiff un newydd ei darparu yn rhad ac am ddim. 

Caiff dogfennau eu hanfon o fewn 1-2 wythnos i dderbyn cais ar yr amod bod y taliad llawn wedi’i dderbyn. 

Caiff tystysgrifau newydd eu marcio “tystysgrif amnewid” a bydd y dyddiad y cyhoeddir y dystysgrif newydd arnynt. Nodwch y gall fformat y dystysgrif amnewid fod yn wahanol i un y dystysgrif wreiddiol, ond bydd yn cynnwys yr un wybodaeth.  

Gwneud Cais am Dystysgrif Amnewid