Skip page header and navigation

Trawsgrifiad / Atodiad Diploma

Trawsgrifiad / Atodiad Diploma

Mae Prifysgol Cymru’n rhoi opsiwn i raddedigion canolfannau cydweithredol gael copi amnewid o drawsgrifiad neu atodiad diploma sy’n cadarnhau holl fanylion eu cwrs am ffi o £20.00.

Noder nad yw Prifysgol Cymru’n cyhoeddi trawsgrifiadau i raddedigion a astudiodd mewn sefydliad yng Nghymru. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi’n uniongyrchol gan y sefydliad a fynychwyd - Trawsgrifiadau i raddedigion a astudiodd yng Nghymru

Yn dilyn cyflwyno Proses Bologna yn 2008 byddai atodiad diploma neu drawsgrifiad (cofnod llawn o Astudiaeth Academaidd) wedi cael ei gyflwyno’n awtomatig i raddedigion sydd wedi cwblhau eu rhaglen astudio neu sydd wedi ymadael â’u rhaglen astudio.

Cyn hyn dyroddid trawsgrifiadau ar gais yn unig, felly mae’n bosibl nad oes manylion ar gael ar gyfer trawsgrifiad llawn o astudiaethau os cawsant eu cwblhau cyn 2008.

Gallwch gael copi amnewid o’ch trawsgrifiad/atodiad diploma am ffi o £20.00; bydd y ddogfen hon yn dangos yr un wybodaeth â’r gwreiddiol ond bydd wedi ei farcio fel copi amnewid a chaiff ei awdurdodi gan yr Is-ganghellor. Fel arfer caiff dogfennau eu hanfon o fewn 1-2 wythnos, ar yr amod bod yr holl wybodaeth ar gael.

Gwneud Trawsgrifiad / Atodiad Diploma