Skip page header and navigation

Meysydd Ymchwil y Ganolfan

Meysydd Ymchwil y Ganolfan

  • Mae’r Ganolfan wedi bod yn arloesi mewn ymchwil i ieithyddiaeth Geltaidd gynnar ers 1997 gyda chyfres o brosiectau wedi eu hariannu dan arweiniad yr Athro John Koch. Cafodd prosiect ymchwil pedair blynedd diweddar, ‘Celfyddyd Cerrig, Ewrop Môr Iwerydd, Geiriau a Rhyfelwyr’, gefnogaeth ariannol gan Gyngor Ymchwil Sweden (Vetenskapsrådet). Roedd y prosiect hwn yn sylfaenol ryngwladolaidd ac amlddisgyblaethol ac yn mynd ati i ddehongli tystiolaeth o Lychlyn, Cymru a Phenrhyn Iberia gyda chyfuniad blaengar o gyfraniad o feysydd ieithyddiaeth, archaeoleg a geneteg. Erbyn hyn mae John Koch yn cydweithio ag ysgolheigion ym Mhrifysgol Göteborg ar brosiect ‘Cyfrangau Arforol’, sy’n mynd i’r afael â phatrymau ymfudo, symudedd a chyfnewid o Norwy i Iberia ar hyd ffasâd yr Iwerydd yn y cyfnod cynhanes.

  • Un o feysydd ymchwil craidd y Ganolfan yw llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Ers ei sefydlu yn 1985, mae’r Ganolfan wedi arwain y gad ym maes golygu testunau barddoniaeth, gan ddarparu golygiadau safonol sy’n sail gadarn ar gyfer ysgolheigion iaith a llenyddiaeth y Gymraeg yn ogystal â meysydd cysylltiedig, megis hanes a chymdeithaseg. Cyhoeddwyd ffrwyth y ddau brosiect cyntaf, Cyfres Beirdd y Tywysogion (7 cyfrol) a Chyfres Beirdd yr Uchelwyr (44 cyfrol), mewn cyfrolau print traddodiadol; ond ers 2008 rydym wedi bod yn cyhoeddi’n bennaf yn y cyfrwng digidol, gan greu gwefannau arloesol megis Gwefan Guto’r Glyn (2012), Seintiau Cymru, ac (mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd) Barddoniaeth Myrddin (2025). Yn ddiweddar rydym hefyd wedi bod yn golygu testunau rhyddiaith, gan gynnwys bucheddau seintiau a thestunau Cyfraith Hywel Dda. 

    Yn 2022, cyhoeddodd y Ganolfan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru orchestwaith Dr Daniel Huws, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800. Bellach mae’r Ganolfan yn cydweithio gydag arbenigwyr ym maes y Celfyddydau Digidol ym Mhrifysgol Caer-grawnt i drosi’r Repertory i fformat a fydd yn caniatáu iddo gael ei gynnig fel adnodd ar lein. Bydd hyn yn hefyd yn ein galluogi ni i ddatblygu cynnwys y Repertory ymhellach yn y dyfodol, fel y daw gwybodaeth newydd am y llawysgrifau a’r ysgrifwyr i’r fei. 

  • Arweiniodd dau brosiect dan nawdd yr AHRC, a gynhaliwyd rhwng 2013 a 2019, at gyhoeddi golygiadau newydd o lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg a Lladin yn ymwneud â seintiau Cymru gynnar. Bu cydweithio rhwng y Ganolfan, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Coleg y Brenin Llundain a Phrifysgol Caer-grawnt. Ers hynny, llwyddwyd i ennill nawdd pellach gan yr AHRC i ddatblygu adnodd a fydd yn cyflwyno gwybodaeth am seintiau Cymru i gynulleidfa ehangach. Bydd hyn yn cynnwys mapio’r lleoedd sy’n coffáu eu henwau a dangos sut y portreadir hwynt mewn celfyddyd weledol.

  • Mae enwau lleoedd yng Nghymru, ac enwau Cymraeg a Cheltaidd mewn rhannau eraill o Brydain, yn faes ymchwil pwysig i’r Ganolfan. Buom yn cydweithio â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i greu’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, sy’n adnodd statudol gan Lywodraeth Cymru. Dr David Parsons sy’n arwain yr ymchwil enwau lleoedd hanesyddol a ffrwyth prosiect ar enwau lleoedd swydd Amwythig oedd ei gyfrol Welsh and English in Medieval Oswestry (2022). Mae Dr Angharad Fychan, yr Athro Ann Parry Owen a Gareth Bevan yn aelodau o Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg. Maent ill tri hefyd yn weithgar gyda Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac yn gyfrifol am ei gwefan, ei bwletin a’i chynhadledd flynyddol.

    Rydym bellach yn ymchwilio ymhellach i ranbarthau eraill lle mae’r ieithoedd Celtaidd wedi cael effaith sylweddol ar y map modern, yn eu plith swydd Henffordd, Gwlad yr Haf ac Ynysoedd Sili.

  • Er 1996 bu’r Ganolfan yn arloesi mewn ymchwil newydd bwysig i ddiwylliant gweledol Cymru. Cyhoeddodd y prosiect ‘Diwylliant Gweledol Cymru’, dan arweiniad Peter Lord, dair cyfrol brintiedig ac electronig ar hanes diwylliant gweledol yng Nghymru o’r Oesoedd Canol Cynnar hyd y 1960au. Ymysg y prosiectau a’i dilynodd roedd ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’ (2005–8) a ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ (2009–11), ac mae gwaith diweddar, dan arweiniad Dr Martin Crampin, wedi bod yn canolbwyntio ar yr Archif Gwydr Lliw yng Ngholeg Celf Abertawe. Bu eraill o brosiectau’r Ganolfan hefyd yn ystyried elfennau o ddiwylliant gweledol, gan gynnwys meini coffa rhyfelwyr ar y Penrhyn Iberaidd a chelfyddyd cerrig yn Llychlyn yn y cyfnod cynhanesyddol; eiconograffeg seintiau Cymru; a’r lluniau a ymddangosodd yng nghyfrolau darluniedig y Tour in Wales gan Thomas Pennant yn y ddeunawfed ganrif.

  • Rhwng 1700 a 1900 trawsnewidiwyd Cymru mewn ffyrdd anhygoel. Mae cynhysgaeth y canrifoedd hyn – effeithiau amgylcheddol, trefedigaethol, cymdeithasol ac ieithyddol – yn parhau i siapio ein byd ni heddiw. Ers degawdau mae’r Ganolfan wedi bod yn hyrwyddo gwaith rhyngddisgyblaethol sy’n mynd i’r afael â chydblethu diwylliannol y cyfnod. O astudiaethau manwl ar unigolion fel y rhyfeddol Iolo Morganwg hyd at leisiau amrywiol y rhai oedd yn profi cynnwrf y Chwyldro Ffrengig, neu ymatebion teithwyr o rannau eraill o Brydain a chyfandir Ewrop i Gymru, mae ein hymchwil yn gosod bywydau a gwaith ysgrifenedig y Cymry yn eu cyd-destun.

  • Ym 1921 sefydlodd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru gynllun i gynhyrchu geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol ar ddelw’r Oxford English Dictionary. Treuliwyd 27 o flynyddoedd yn casglu tystiolaeth a chyhoeddwyd y Geiriadur mewn pedair cyfrol rhwng 1950 a 2002. Daeth y cynllun yn rhan o’r Ganolfan Uwchefrydiau yn 2006 pan ddiddymwyd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ac mae’r tîm bellach yn ailolygu’r Geiriadur yn drylwyr ac yn ychwanegu ato. Lansiwyd fersiwn ar lein llawn yn 2014, sydd ar gael am ddim i’r cyhoedd, a’i ddilyn gan apiau ar gyfer iOS ac Android yn 2016.

  • Mae cyfieithu llenyddol a thestunol wedi cysylltu’r ieithoedd Celtaidd gyda ieithoedd llafar ac ysgrifenedig ar hyd y canrifoedd. Gwelir rôl ganolog i gyfieithu yn nifer fawr o brosiectau’r Ganolfan. 

    Heddiw arweinir y thema gan Alexandra Büchler, Dr Elizabeth Edwards a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

    Mae’r Ganolfan yn gartref i Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau – dwy raglen strategol sy’n cysylltu Cymru a’r byd drwy gyfieithu llenyddol cyfoes a chyfnewid diwylliannol. Maent yn aelodau o ENLIT a chonsortiwm Ymgyrch Dinas Llên Aberystwyth-Ceredigion.

    Lletyir casgliad arbenigol o lenyddiaeth Cymru mewn cyfieithiadau i dros 40 o ieithoedd yn Llyfrgell y Ganolfan.

  • Mae Astudiaethau Celtaidd yn faes sydd yn ei hanfod yn gymharol. Mae llawer o waith y Ganolfan yn canolbwyntio ar Gymru yn ei chysylltiadau â rhannau eraill o’r byd, a hynny’n amrywio o ddiwylliannau Celtaidd eraill i’w chymdogion mawr yn Ewrop megis Ffrainc a’r Almaen. Mae’r ymchwil sydd wedi bod yn edrych ar Gymru o safbwyntiau rhyngwladol yn cynnwys prosiectau ar lên teithio, porthladdoedd, sosioieithyddiaeth ac astudiaethau cyfieithu.

  • Mae gennym arbenigedd mewn polisi a chynllunio iaith gyfoes yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifedig Ewrop mewn ystod eang o feysydd. Mae’r gwaith hwn hefyd yn adeiladu ar y gyfres arloesol Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg.

    BRO: Arolwg Sosioieithyddol Cynhwysfawr o Gymunedau Cymraeg Cyfoes, mewn cydweithrediad â Phrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, Coleg yr Iesu Rhydychen a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

    Cadair Alan R King mewn Sosioieithyddiaeth a gefnogir gan Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg

    Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol: Addysg Ddwyieithog a’r Gymraeg, gan ddod ag ymchwilwyr ynghyd o bob prifysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

    Plurilingmedia: Amrywedd Ieithyddol yng nghyd-destun newidiol cyfryngau Ewrop. Cydweithrediad Ewropeaidd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (E-COST)

    FOSTERLANG: Gwrthdroi’r argyfwng amrywiaeth: strategaethau cynhwysol i feithrin cyfalaf ieithyddol Ewrop, cyllidir gan Horizon Europe.

    Y Gynhadledd Ryngwladol ar Faterion Lleiafrifol 

  • Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am Y Bywgraffiadur Cymreig mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.