Skip page header and navigation

BRO: Arolwg Sosioieithyddol Cynhwysfawr o Gymunedau Cymraeg Cyfoes

BRO: Arolwg Sosioieithyddol Cynhwysfawr o Gymunedau Cymraeg Cyfoes

Logo BRO

BRO: Arolwg Sosioieithyddol Cynhwysfawr o Gymunedau Cymraeg Cyfoes

BRO: Arolwg Sosioieithyddol Cynhwysfawr o Gymunedau Cymraeg Cyfoes

Mae prosiect BRO yn astudiaeth ddadansoddol o ddefnydd cymdeithasol y Gymraeg gan ganolbwyntio, yn y cam cyntaf, ar yr ardaloedd hynny ble mae canran ei siaradwyr ar ei uchaf. 

Sefydlwyd BRO gyda chefnogaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru

Arweinir BRO gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Dr Richard Glyn Roberts a Catrin Llwyd (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), yr Athro Conchúr Ó Giollagáin (Prifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd) a’r Athro David Willis (Coleg Iesu, Prifysgol Rhydychen).

Mae BRO yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau Iaith ac arbenigwyr eraill o Cymreig a rhyngwladol. 

Defnyddir methodoleg aml-haenog a ddatblygwyd yng nghyd-destun cymdeithasegol y Wyddeleg (Ó Giollagáin et al 2007) a Gaeleg yr Alban (Ó Giollagáin et al 2020), gan ei haddasu’n benodol ar gyfer cyd-destun y Gymraeg, sydd mewn termau byd-eang yn iaith leiafrifedig, canolig ei maint.

Mae’r fethodoleg yn cwmpasu dadansoddiad manwl o’r elfennau canlynol: data ystadegol; ymyraethau polisi; trosglwyddiad iaith ar aelwydydd; arferion iaith pobl ifanc; defnydd iaith mewn gofodau cyhoeddus a gweithleoedd; arolygon cymunedol drws i ddrws mewn gwahanol ardaloedd sy’n gynrychioladol o’r mathau o gymunedau ble mae canran siaradwyr y Gymraeg ar ei uchaf. Hyd yma, mae’r gwaith maes wedi digwydd yn siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion, Caerfyrddin a Chastell-Nedd Port Talbot.

Wrth adrodd ar y canfyddiadau a’r casgliadau, rhagwelir y bydd dadansoddiadau Prosiect BRO yn gallu cyfrannu at lunio ymyraethau polisi mwy effeithiol i ddiogelu a chynyddu defnydd cymunedol o’r iaith Gymraeg. Hefyd, gosodir hyn yn y cyd-destun rhyngwladol ehangach ym maes cynaliadwyedd amrywiaeth ieithyddol a all fod o fudd i ieithoedd eraill yn ogystal.