Skip page header and navigation

Beirdd yr Uchelwyr

Beirdd yr Uchelwyr

Llyfrau Beirdd yr Uchelwyr.

Beirdd yr Uchelwyr

Cyfres Beirdd yr Uchelwyr

Mae’r gyfres hon o 44 cyfrol yn ffrwyth prosiect ymchwil a gynhaliwyd yn ffurfiol yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd rhwng 1993 a 2008, gan barhau i gyhoeddi cyfrolau hyd 2015. Gobeithir ychwanegu rhagor at y Gyfres yn y dyfodol, a hefyd ailargraffiadau. Cynhaliwyd y gwaith gan dîm o ymchwilyr dan nawdd Prifysgol Cymru a grantiau gan yr AHRB, AHRC, y Skaggs Foundation ac eraill (ceir manylion yn y cyfrolau unigol), a chyn eu cyhoeddi darllenwyd pob cyfrol gan Fwrdd Golygyddol gweithgar ac ymroddedig iawn. Mabwysiadwyd y prosiect yn un o brosiectau ymchwil yr Academi Brydeinig.

  • 44 cyfrol
  • dros 1,100 o gerddi a ganwyd rhwng 1282 a 1550
  • dros 61,000 llinell o farddoniaeth
  • gwaith tua 120 o feirdd hysbys, a tua 75 o gerddi dienw
A photo of
Manylyn o lsgr. LlGC 3050D. Hawlfraint LlGC. Cedwir pob hawl.

Beirdd yr Uchelwyr: Disgrifiad Llawn

Prosiect cyntaf y Ganolfan oedd cynllun uchelgeisiol i olygu holl farddoniaeth Beirdd y Tywysogion mewn saith cyfrol sylweddol dan olygyddiaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd, Cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan fel sefydliad Prifysgol Cymru.

Wrth weithio ar y prosiect hwnnw, sylweddolwyd bod corff helaeth o farddoniaeth anolygedig o’r cyfnod a ddeuai’n union ar ôl cyfnod Beirdd y Tywysogion, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Wrth i’r prosiect cyntaf dynnu at ei derfyn, dechreuwyd cynllunio trydydd prosiect y Ganolfan i olygu gwaith anolygedig y cyfnod 1282–1525. Cam cyntaf y gwaith rhagbaratoawl hwn oedd llunio rhestr o holl feirdd a cherddi’r cyfnod mewn cydweithrediad â staff y Llyfrgell Genedlaethol, gan elwa yn arbennig ar y cynllun i baratoi mynegai cyfrifiadurol i farddoniaeth y llawysgrifau (MALDWYN). Buan y sylweddolwyd bod llawer iawn mwy o waith i’w olygu nag a wnaed yng nghwrs Prosiect I.

Penderfynwyd canolbwyntio yn y lle cyntaf ar farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg. Hon yn sicr yw un o’r canrifoedd pwysicaf a mwyaf cyffrous yn hanes ein llenyddiaeth. Ar y naill law ceir nifer o feirdd yn canu mawl a marwnad yn yr hen ddull gan ddefnyddio’r mesurau traddodiadol ac ar y llaw arall ceir yng ngwaith Dafydd ap Gwilym a’i ddilynwyr ganu tra gwahanol ar fesur y cywydd yn dyrchafu themâu newydd megis serch. Dyma felly drobwynt yn hanes y canu caeth, a’r cyfnod yn gymysgedd o’r hynafol traddodiadol a’r newydd cyffrous. Erbyn y bymthegfed ganrif y mae nifer y beirdd a’r cerddi yn cynyddu’n sylweddol. Dyma yw oes aur y canu cywydd.

Lansiwyd y prosiect ym 1993 ac apwyntiwyd yr Athro Ann Parry Owen yn olygydd cyffredinol ac arweinydd y prosiect. Dan arweiniad Pwyllgor Ymgynghorol yn cynrychioli pob Adran Gymraeg yn y Brifysgol, penderfynwyd ar ganllawiau golygyddol i gyfranwyr y gyfres. Fel yn achos Prosiect 1 cyfrannwyd cyfrolau pwysig i’r gyfres gan nifer o ysgolheigion mwyaf amlwg y maes. Buom yn ffodus i dderbyn barn ac arweiniad y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams (a oedd hefyd yn Olygydd Ymgynghorol Prosiect 1) a’r diweddar Athro R. Geraint Gruffydd (a oedd yn Olygydd Cyffredinol Prosiect 1). Manteisiwyd yn rheolaidd hefyd ar sylwadau y pedwar ysgolhaig Cymraeg nodedig a oedd yn aelodau o’r Bwrdd Golygyddol.

Cyhoeddir y cerddi yn orgraff heddiw, wedi eu hatalnodi. Manylir ar y dull golygyddol yn y cyfrolau unigol. Yn achos cerddi’r bedwaredd ganrif ar ddeg, a rhai cerddi eraill a ystyrir yn arbennig o anodd, cynigir aralleiriad mewn Cymraeg cyfoes. Mae nodiadau manwl ar bob cerdd sydd yn esbonio unrhyw anawsterau yn y testun a hefyd y cyfeiriadau at bobl, lleoedd a chymeriadau hanesyddol a chwedlonol. O flaen gwaith pob bardd, ceir rhagymadrodd yn trafod bywyd y bardd, ei ddyddiadau, ei noddwyr a natur ei farddoniaeth. Ar ddiwedd pob cyfrol ceir mynegeion a rhestrau llawn o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd yn sail i’r golygiad.

Cyhoeddwyd cyfrolau Cyfres Beirdd yr Uchelwyr rhwng 1994 a 2015 dan hawlfraint Prifysgol Cymru. Yn 2022 derbyniodd Ann Parry Owen grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddiweddaru’r ffeiliau eletronig a’u troi yn PDF, i’w cyflwyno fel casgliad ar Borth Adnoddau’r Coleg dan drwydded CC BY-NC-SA 4.0. Mae’r ffeiliau PDF yn adargraffiadau gyda mân newidiadau neu gywiriadau. Diweddarwyd y ffeiliau Word gwreiddiol, a cheisiwyd cadw mor agos â phosibl at dudaleniad y cyfrolau print. Llwyddwyd i gadw’r cerddi eu hunain ar yr union dudalennau, ond weithiau gall fod hyd at hanner brawddeg o wahaniaeth yn achos y rhagymadrodd a’r nodiadau. 

Y bardd yn ymweld â’i neiaint amser y Nadolig

Fy swydd gyda’m harglwyddi,
Hyn fydd, a’u câr hen wyf i:
Darllain cyfraith, rugliaith raid,
Sifil, i’m cyfneseifiaid;
Gwisgaw o befrlaw bob un,
Gwrdd roddion, gwyrdd o’r eiddun;
Clau ddychanu llu lletffrom,
Clywir ei dwrf, clêr y dom;
Rhugl o beth y’m hanrhegwyd,
Rhydebygu Lleucu Llwyd
I hardd flodeuros gardd gain,
I hael Fair, neu i haul firain.
Digrif gan gleiriach achul,
Awr dda y sydd ar dduw Sul,
Clybod yn ôl Nadolig
Dyrnodau cogau mewn cig,
Cynnwrf milgwn, gwn nad gau,
Cedenog o’u cadwynau,
Cytgerdd crwth chwimwth a chod,
Cydgerddau pennau peunod,
A chlych aberth a chwerthin,
A galw y gwŷr i gael gwin.

Llywelyn Goch ap Meurig Hen ( fl . c .1350– c .1390)