Skip page header and navigation

Defining the Divinity: Medieval Perceptions in Welsh Court Poetry

Cynnwys

Defining the Divinity: Medieval Perceptions in Welsh Court Poetry
Holder Image
Awdur/Golygydd Nora G. Costigan
Cyhoeddwyd 2002
ISBN
0 947531 85 8
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris £14.95
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xix+219

Cwblhawyd Cyfres Beirdd y Tywysogion o farddoniaeth llys Gymraeg yn 1996, gan ddarparu argraffiad llawn o’r canon cyfan yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Am y rheswm hwn cyflwynir Defining the Divinity yn y Saesneg. Yma datgelir ac archwiliwr amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol, a gasglwyd o waith y Gogynfeirdd, neu feirdd llys Cymraeg, y 12fed a’r 13eg ganrif. Mewn Rhagarweiniad cyflwynir y farddoniaeth yn ei chyd-destun. Mae Rhan I yn cynnwys cyfieithiadau o bob un o’r pedair ar hugain o ymgysegriadau i Dduw, ynghyd â thair cerdd wely angau neu edifarhau, gydag incipitau (anerchiadau cychwynnol) i Dduw yn dilyn a dynnwyd o dri chyfansoddiad seciwlar. Mae Rhan II yn darparu esboniad ar bob un o’r cyfieithiadau hyn. Yn olaf, mae Rhan III yn ystyried arwyddocâd diwinyddol pob cyfeiriad at y Duwdod a geir gydol y saith cyfrol yn y gyfres: casgliad anferth a gyflwynir yn eiriadurol. Felly ymdrinnir ag enwau Duw, y Drindod; Duw’r Tad, Mab, Ysbryd Glân, Crist ac Iesu mewn adrannau ar wahân tra caiff gweddau perthnasol ar bob agwedd o’r Duwdod eu hegluro mewn is-adrannau. Rhestrir yr holl gyfeiriadau yn yr Atodiad mewn sillafiad Cymraeg Modern gyda chyfieithiadau Saesneg, gan gadw teitlau adrannol tebyg. Mae Epilog yn rhoi barn yr awdur ei hun ac mae Llyfryddiaeth gynhwysfawr a Mynegai fanwl yn cwblhau’r astudiaeth gymhleth ond diddorol iawn hon.

Mae’r awdur, y Chwaer Nora Costigan, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn y Ganolfan, yn aelod o’r Chwiorydd Trugaredd a bellach mae’n byw yn Iwerddon. Yn y 1970au golygodd gerddi Dafydd Benfras a gyhoeddwyd dan ei golygyddiaeth yn Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion gan y Ganolfan. Cyhoeddwyd ei hargraffiad o waith Trahaearn Brydydd Mawr yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr gan y Ganolfan.

Ar gael trwy gwales.com