Skip page header and navigation

Cyfres Beirdd yr Uchelwyr

Cyfrolau

Insular decorated cross.

Gwaith Gruffudd Llwyd a’r Llygliwiaid Eraill

Golygwyd yma ddwy ar bymtheg o gerddi o waith Gruffudd Llwyd, ynghyd ag un cywydd serch y tybir ei fod yn gywydd o’i waith. Mawrygwyd Gruffudd Llwyd gan ei gyfoeswyr fel bardd serch a chrefydd. 

Insular decorated cross.

Gwaith Syr Dafydd Trefor

Cyflwynir yn y gyfrol hon gynnyrch barddol Syr Dafydd Trefor, rheithor Llaneugrad a Llanallgo ym Môn, a bardd yn ei amser hamdden.

Gellir mentro cynnig c.1460 yn ddyddiad ei eni, a c.1528 yn ddyddiad ei farwolaeth o’r Pla Du, yn henddyn (yn ei oes) tua 68 oed.

Ymhlith ei gerddi hynod amrywiol ceir cywyddau mawl a marwnad; nifer o gywyddau gofyn – un yn deisyf un o dair telyn Edward Sirc ac o bosibl yn cyfeirio at un o alawon Robert ap Huw ‘Cainc Dafydd Broffwyd’; yn ogystal â chywyddau crefyddol (er nad cymaint â’r disgwyl), yn eu plith folawd hyfryd i Santes Dwynwen, nawddsantes cariadon Cymru.