Urdd y Graddedigion: Jerry Hunter: Anterliwtiwr
Pleser di-gymysg oedd cael mwynhau darlith yr Athro Jerry Hunter, Prifysgol Bangor, ac yntau’n mynd i hwyl wrth ddadansoddi anterliwtiau Cymraeg dwy ganrif a mwy yn ôl.

Cadeiriwyd y noson gan yr Athro Peredur Lynch a aeth i hwyl hefyd yn ysbryd y noson. Trefnwyd y ddarlith gan Gangen Bangor Urdd y Graddedigion, y cyfarfodydd yn agored i bawb.
Er mwyn derbyn manylion am y darlithiau arbennig hyn anfonwch neges at yr ysgrifennydd, Megan Tomos, i’r cyfeiriad mht263@btinternet.com.
[Llun: Peredur Lynch a Jerry Hunter yn eu helfen]
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790