Griffith Evans, gwyddonydd o fri
Camp Gavin Gatehouse, gwyddonydd o Abergwyngregyn, oedd ysgrifennu llyfr am y gŵr rhyfeddol Griffith Evans (1835-1935), a fagwyd yn Nhywyn, Meirionnydd, ond a dreuliodd 45 o flynyddoedd yma ym Mangor.

Lansiwyd llyfr Gavin yn Storiel ym mis Mai eleni a thraddododd ddarlith arbennig am Evans yn y Brifysgol ar 18 Hydref.
Roedd Griffith Evans yn filfeddyg yn arbenigo mewn afiechydon a oedd yn lladd ceffylau – a hynny mewn oes pan oedd ceffylau yn bwysig iawn ar y tir ac mewn rhyfeloedd. Camp Evans oedd darganfod ffordd i drin y cyflwr, er mawr ryfeddod i filfeddygon y cyfnod, nifer ohonynt yn gwrthwynebu ei waith. Cadwodd Evans at ei egwyddorion, doed a ddêl.
Mae cysylltiad cryf rhwng y gyfrol a Bangor ar sawl lefel, gan gynnwys aelodaeth Griffith Evans o Gapel Pendref, lle bu’n Arolygwr yr Ysgol Sul. Roedd hefyd wrth ei fodd yn herio pregethwyr ar ddiwedd yr oedfaon!
Ar ôl iddo ymddeol yn 1890 yn 55 oed, ac yntau wedi crwydro’r byd yn ei waith, prynodd dŷ ym Mangor, Brynkynallt ar Lôn Pobty, er mwyn bod mewn cyswllt agos gyda Choleg y Brifysgol a sefydlwyd yn 1884, ychydig o flynyddoedd ynghynt. Cyfrannodd yn helaeth at waith y Coleg trwy ei gysylltiadau gyda’r darlithwyr, yn arbennig yn yr Adran Amaethyddiaeth, ac fe’i perswadiwyd i ddarlithio i fyfyrwyr yr adran honno am gyfnod o ugain mlynedd fel ‘Instructor in Veterinary Hygiene’. Bu’n aelod o bwyllgorau’r Coleg, ac yn hael iawn ei gyfraniadau iddo.
Roedd Griffith Evans hefyd yn ddylanwadol yn ei ymwneud â chymdeithasau a mudiadau amrywiol Bangor ac yn uchel iawn ei barch ymysg trigolion y ddinas. Roedd yn cefnogi’r mudiad rhyddfrydol, a byddai Lloyd George yn lletya yn aml yn Brynkynallt ar ei ymweliadau â Bangor. Yn 1931, ac yntau yn 96 oed, aeth cynrychiolwyr Cyngor Dinas Bangor i ymweld â Griffith Evans yn ei wely yn Brynkynallt i gyflwyno iddo Ryddid Dinas Bangor, anrhydedd a oedd wrth ei fodd. Bu farw yn 1935 yn dilyn ei ben-blwydd yn gant oed. Mae’r cof amdano erbyn hyn wedi pallu ond mae cyfrol Gavin Gatehouse yn ei adfywio a’r stori lawn yn ysbrydoledig.
Mae’r gyfrol yn rhan o gyfres Gwyddonwyr Cymru/Scientists of Wales a chyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru.
Does dim rhaid bod yn wyddonydd o fath yn y byd i fwynhau’r llyfr arbennig hwn. Dilynwch y ddolen i wefan Gwasg Prifysgol Cymru.
Deri Tomos (chwith) a gadeiriodd darlith a Gavin Gatehouse
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790