Content
Edward Lhwyd 1660–1709: Llyfryddiaeth a Chyfarwyddiadur
| Awdur/Golygydd | Dewi W. Evans a Brynley F. Roberts |
| Cyhoeddwyd | 2009 |
| ISBN | 9780947531980 |
| Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
| Pris | £2.50 |
| Maint | 210 x 138 mm |
| Fformat | Clawr papur / Paperback, 41 tt./pp. |
Cyhoeddwyd y llyfryddiaeth hon i nodi trichanmlwyddiant marw’r hynafiaethydd, yr ieithydd a’r naturiaethwr Edward Lhwyd. Fe’i rhannwyd yn dair rhan, sef ‘Geiriaduron Bywgraffyddol a Gwyddoniaduron’, ‘Bywyd a Gwaith Edward Lhwyd’ a ‘Cyhoeddiadau Edward Lhwyd’. Bydd y cyhoeddiad hwn yn ddefnyddiol i bawb sydd â diddordeb yn Lhwyd ac o gymorth i ysgolheigion yn eu hastudiaethau o’r athrylith amlochrog hwn.