
SGÔR: Ieithoedd Lleiafrifedig a Phêl-droed / Minoritised Languages and Football
Cyflwyniad / Introduction
Dydd Gwener 21 Mawrth 2025 / Friday 21 March 2025
Canolfan yr Urdd
Bae Caerdydd / Cardiff Bay, Wales
Cost: Am ddim
Mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas.
Mewn cymunedau lle mae ieithoedd lleiafrifedig yn cael eu siarad, mae pêl-droed – ar bob lefel – yn cynnig cyfleoedd unigryw, i blant a phobl o bob oed, i gynyddu ac ehangu eu defnydd o’r iaith, wrth fwynhau gêm y bêl gron.
O glybiau llawr gwlad i lwyddiant rhyngwladol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ar y terasau ac ar y cyfryngau cymdeithasol, mae gan y gêm gyfoes rôl arbennig i’w chwarae yn natblygiad y Gymraeg. Ac mae profiadau tebyg yn digwydd ar draws Ewrop.
Ers blynyddoedd, mae arwyddair Catalaneg FC Barcelona Més que un club yn teithio’r byd. Yn fwy diweddar, mae Basgeg yn iaith mentrau pêl-droed cymunedol ledled y wlad. Mae Llydaweg, Gwyddeleg Ffriseg, Sardinieg, a llu o ieithoedd eraill yn rhan o hunaniaeth bêl-droed cyfoes ar y maes chwarae.
Mae Symposiwm SGÔR yn gofyn: Beth yw’r sgôr ddiweddaraf ar gyfer pêl-droed ac ieithoedd lleiafrifedig? Ydy’r Gymraeg ar frig neu ar waelod y tabl? Beth yw’r tactegau gorau i glybiau, cymdeithasau a chefnogwyr er mwyn i’w hieithoedd lleifrifedig gyrraedd eu llawn botensial gyda’r bêl gron?
Cyfle i drafod a dadansoddi, gydag arbenigwyr o Gymru a thu hwnt.
Dydd Gwener 21 Mawrth. Canolfan yr Urdd. Bae Caerdydd.
Bydd y gynhadledd yn cynnig ysbrydoliaeth o ran sut y mae chwaraeon (yn benodol, pêl-droed) yn cyfrannu at hyfywedd a thwf ieithoedd lleiafrifol. Bydd y digwyddiad o ddiddordeb i unrhyw un sy’n cyfrannu at faes polisi iaith neu chwaraeon o unrhyw fath neu’n wir sy’n gweithio ym maes cyfathrebu a marchnata yn gyffredinol. Yn y gynhadledd, byddwn yn archwilio sut y mae pêl-droed – ar bob lefel – yn cynnig cyfleoedd unigryw, i blant a phobl o bob oed, i gynyddu ac ehangu eu defnydd o’r iaith, wrth fwynhau gêm y bêl gron.
*Bydd rhai siaradwyr yn cyfrannu yn Gymraeg ac eraill yn Saesneg. Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael pan fydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio. Bydd elfennau o’r gynhadledd yn cael eu recordio gan griw teledu.
Cost: Free
Sport plays an important role in society.
In communities where minoritised languages are spoken, football at all levels can provide unique opportunities for children and adults of all ages to enhance and augment their use of the language whilst enjoying the beautiful game.
From grassroots clubs to the international success of the Football Association of Wales, from the terraces to social media, football has a special role to play in developing the Welsh language. And the same goes for other languages all across Europe.
FC Barcelona’s international strapline in Catalan, Més que un club, has travelled the world for years. More recently Basque is the language of community football initiatives across the country. Breton, Irish, Frisian, Sardinian and many other languages are part and parcel of contemporary football identities.
In the SGÔR Symposium, we’ll be asking: What’s the latest score for football and minoritised languages? Is Welsh at the top, or the bottom of that league? And what are the best tactics for clubs, associations and fans, so that their minoritised languages can reach their full potential in football?
An opportunity to analyse and discuss with experts from home and away.
Friday 21 March. Canolfan yr Urdd. Cardiff Bay.
The conference will provide inspiration in relation to how sport (in particular, football) contributes to the growth and vitality of minoritised languages. The event will be of interest to those working in the field of language policy or sport or indeed comms and marketing more broadly. In the conference, we will explore how football at all levels can provide unique opportunities for children and adults of all ages to enhance and augment their use of the language whilst enjoying the beautiful game.
*Some speakers will take part in Welsh and others in English. Simultaneous interpretation into English will be available when Welsh is spoken. Elements of the conference will be recorded by a television crew.
Manylion / Details
Dydd Gwener 21 Mawrth 2025 / Friday 21 March 2025
Canolfan yr Urdd
Bae Caerdydd / Cardiff Bay, Wales