Dathliad Graddio Prifysgol Cymru 2025
Mae Dathliad Graddio Prifysgol Cymru yn gyfle i ddathlu cyraeddiadau ein graddedigion. Mae’n bleser gennym gadarnhau y cynhelir y dathliad nesaf yn Abertawe ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2025.
Mae cofrestru ar gyfer Dathliad Graddio 2025 bellach ar agor. Cofrestrwch eich diddordeb os hoffech fynychu.
Fel arall, anfonwch e-bost atom ar graduation@wales.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y digwyddiad.
Gwisgoedd Academaidd
Os dymunwch fynychu Seremoni Raddio, y mae gofyn ichi wisgo’r wisg academaidd lawn sy’n briodol i’r dyfarniad y’ch derbynnir iddo. Eich cyfrifoldeb chi yw archebu hon eich hun ar Ede & Ravenscroft.
Dylech archebu o leiaf 21 diwrnod cyn y seremoni gan na fydd Ede and Ravenscroft yn gwarantu’r archeb os daw i law yn hwyrach na hynny. Peidiwch ag aros am ganlyniadau’r asesu terfynol. Mae ad-daliadau ar gael os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ond rhaid rhoi gwybod i Ede & Ravenscroft o fewn 7 diwrnod cyn y seremoni. Gellir dod o hyd i’w polisi canslo ar eu gwefan. Fe fydd Ede & Ravenscroft yn cydnabod eich archeb pan fydd wedi ei phrosesu ond mae’n bosib na fyddwch yn ei dderbyn tan 10 diwrnod cyn eich seremoni.
Rhowch UWTSD pan ofynnir ichi nodi enw eich sefydliad. Fe fydd angen i chi wybod cylchedd eich pen a mesuriadau eich brest a’ch taldra.
Bydd eich gwisgoedd ar gael i chi eu casglu o’r lleoliad ar Ddiwrnod Graddio. Dychwelwch eich gynau yma ar ôl y seremoni.
Tocynnau i Westeion
Caniateir dau docyn gwestai i bob myfyriwr ond gallwch ofyn am docynnau ychwanegol os ydych yn dymuno. Unwaith y bydd nifer y myfyrwyr sy’n graddio wedi’i gadarnhau, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ellir dyrannu tocynnau ychwanegol. Bydd y tocynnau ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni. Nid yw’r seremonïau yn addas ar gyfer plant o dan 5 oed oherwydd natur ffurfiol y gweithrediadau.
Yr ydym yn cydnabod y gall cyfyngu ar docynnau i westeion yn y ffordd yma fod yn destun siom, ond fe fyddwch yn gwerthfawrogi bod nifer y seddau yn gyfyngedig.
Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd neu ofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, anfonwch e-bost i graduation@cymru.ac.uk
Lluniau Ffurfiol
Dylid gwneud archebion am ffotograffau ffurfiol o flaen llaw yn uniongyrchol trwy Ede & Ravenscroft.
Ar Ddiwrnod Graddio, bydd y stiwdio tynnu lluniau a’r ddesg werthu wedi eu lleoli yr venue.
-
Mae cofrestru ar gyfer Dathliad Graddio 2025 bellach ar agor, defnyddiwch y ddolen a ganlyn i gofrestru eich diddordeb i fynychu’r digwyddiad
-
Mae sawl maes parcio wedi’u lleoli yn agos at yr Bryngwen Hall. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Meysydd parcio (Cyngor Abertawe)
-
Bydd angen i chi gyrraedd oddeutu ddwy awr cyn i’r seremoni ddechrau er mwyn rhoi amser i chi gasglu eich gwisg, rhif sedd a thocynnau gwestai. Fe fyddwn yn anfon gwybodaeth bellach ynghyd ag amserlen o ddigwyddiadau atoch wythnos cyn y seremoni.
Bydd angen i chi fod yn eich sedd 45 munud cyn amser dechrau’r seremoni ac yn ystod yr amser hwn byddwch yn eistedd yn y sedd a ddyrannwyd i chi a bydd y Prif Dywysydd yn eich briffio.
-
Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd / ofynion mynediad penodol neu nam ar y clyw, mae angen i ni wybod amdanyn nhw. Rhowch fanylion ym mlwch ‘Manylion pellach’ ar MyTSD a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.
Rhowch wybod i’r staff ar y dydd hefyd fel y gellir cynnig cymorth.
-
Nid yw seddi gwesteion yn cael eu dyrannu ac mae gwesteion yn gallu eistedd unrhyw le yn y lleoliad ar wahân i’r seddi a gedwir ar gyfer Graddedigion, gwesteion yr Is-Ganghellor neu ddefnyddwyr cadair olwyn. Bydd seddi neilltuedig yn cael eu marcio’n glir. Mae mynediad i’r lleoliad trwy docyn yn unig a rhaid rhoi tocynnau i’r Stiwardiaid ar y drysau. Bydd drysau’n agor i westeion tua awr cyn dechrau’r seremoni.
-
Rhaid i Ddarpar Raddedigion wisgo gwisg academaidd ar gyfer cael eu cyflwyno yn y seremoni. Mae pob mynychwr fel arfer yn gwisgo dillad cymharol ffurfiol.
-
Ar ddechrau’r seremoni, bydd y graddedigion a’r gwesteion yn sefyll wrth i’r staff academaidd ymdeithio i mewn i’r awditoriwm. Yn dilyn gair o groeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.
Wedi darlleniad o’r Proclamasiwn, cyflwynir y graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu’r sawl a enwebwyd ganddi). Cewch eich annog gan dywyswyr i godi o’ch sedd ac aros mewn rhes yn barod i gael eich cyflwyno ar yr amser priodol.
Bydd eich enw yn cael ei ddarllen ac ar y pwynt hwnnw byddwch chi’n esgyn i’r llwyfan, yn cerdded at yr Is-Ganghellor ac yn codi eich cap. Wedyn byddwch yn gadael y llwyfan a bydd aelod o staff yn eich tywys yn ôl i’ch sedd.
Wedyn bydd yr Is-Ganghellor yn gofyn i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn yr un dyfarniad i sefyll a bydd yn eich cyflwyno’n ffurfiol i’ch dyfarniad. Dylech godi eich cap mewn ymateb a pharhau i sefyll er mwyn derbyn Cyfarchion y Brifysgol.
-
Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig.
-
Mae hyd y seremoni yn ddibynnol ar y nifer sy’n mynychu, ond fel arfer maent rhwng awr a 2 awr o hyd. Ar wahân i’ch cyflwyniad, mae’n ofynnol i chi a’ch gwesteion aros yn eich sedd am gyfnod y seremoni.
Lleoliad
Brangwyn Hall
Guildhall
Abertawe
SA14EP
Y Deyrnas Unedig
Cyfarwyddiadau