Skip page header and navigation

Cydweithio

Cydweithio

  • BRETAGNE/PAYS DE GALLES : QUAND LES CHEMINS SE CROISENT ET SE DÉCROISENT

    Au fil des années des chercheurs au Centre de Recherche Bretonne et Celtique et le University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies ont entretenu des relations amicales, et cette année s’ouvre un nouveau chapitre dans l’histoire des collaborations entre les deux centres: une série de quatre ateliers auront lieu alternativement à Aberystwyth et Brest en 2009–2010, et ceux-ci devraient permettre de jeter les bases d’une véritable coopération au plan institutionnel. Une bourse Alliance Hubert Curien/ British Council financera les déplacements des deux équipes. Le premier atelier ‘Approaching the Middle Ages: Wales and Brittany’ a eu lieu au CAWCS le 24 janvier 2009. Lisez les textes des communications ici. Le deuxième atelier ‘Paysage et patrimoine’ a eu lieu au Manoir de Kernault, Mellac, le 6 juin 2009. Ensuite en 2010 se tiendra un atelier à Aberystwyth sur la question linguistique, et un autre en Bretagne sur ‘la guerre et la paix’.

    Une sélection d’essais basés sur ces ateliers a été publiée. Cliquez ici pour les détails.

    CULTURAL CHANGES AND EXCHANGES: BRITTANY AND WALES

    Dros y blynyddoedd datblygodd perthynas rhwng ymchwilwyr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a’r Centre de Recherche Bretonne et Celtique. Eleni agorodd pennod newydd yn hanes y cydweithio rhyngddynt: yn ystod 2009–2010 cynhelir cyfres o bedwar gweithdy, yn Aberystwyth ac yn Brest bob yn ail, a fydd yn gosod seiliau ar gyfer cydweithio ar lefel sefydliadol. Noddir y gweithdai gan raglen ‘Alliance’ y Cyngor Prydeinig, rhaglen sy’n hyrwyddo partneriaethau ymchwil rhwng Prydain a Ffrainc. Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf ‘Golwg ar yr Oesoedd Canol: Cymru a Llydaw’ yn y Ganolfan ar 24 Ionawr 2009. Gellwch ddarllen y papurau a draddodwyd yma. Cynhaliwyd yr ail weithdy ‘Paysage et patrimoine’ (Treftadaeth a thirwedd) yn Manoir Kernault, Mellac, ar 6 Mehefin 2009. Cynhelir y trydydd gweithdy, , yn Aberystwyth ar 20 Mawrth 2010, a gweithdy arall yn Llydaw ar y thema ‘Rhyfel a heddwch’ yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

    Bellach cyhoeddwyd detholiad o draethodau yn deillio o’r gweithdai. Cliciwch yma am fanylion.

  • Prosiect a ariennir gan yr AHRC yw hwn, ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor (Yr Athro Carol Tully, Principal Investigator), Prifysgol Abertawe (Dr Kathryn Jones, Co-investigator) a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Dr Heather Williams, Co-investigator).

    Mae’r prosiect yn ymchwilio i’r delweddau o Gymru a Chymreictod a geir mewn testunau gan deithwyr Ewropeaidd o 1750 i 2010. Gan ddefnyddio arbenigedd mewn nifer o ieithoedd a diwylliannau, byddwn yn canolbwyntio ar destunau Ffrangeg ac Almaeneg, gan fod y rhain mor gymharol niferus. Bydd y testunau yn cwmpasu cofiannau taith, teithlyfrau, almanaciau, gwyddoniaduron, gohebiaeth breifat, gwaith creadigol a chyfraniadau at gyfnodolion, sy’n ymdrin â Chymru. Mae’r maes ymchwil pwysig hwn wedi ei ddiystyru, ond mae’n ganolog i’n dealltwriaeth o’r berthynas rhwng gwahanol ddiwylliannau Ewrop, datblygiad hunaniaeth Gymreig a thŵf y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

    Cynhaliwyd gweithdy ar Deithwyr i Gymru yn y Ganolfan ar 25 Ebrill 2009, cliciwch yma am y manylion.

    Fel rhan o’r prosiect bydd rhifyn arbennig o Studies in Travel Writing yn ymddangos yn 2014. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. 

  • Yn dilyn y gynhadledd trichanmlwyddiant, mae ein gwaith ar Edward Lhwyd yn parhau gyda phrosiect newydd ar ei ohebiaeth a gychwynnodd ym mis Medi 2009 gyda phenodi Helen Watt yn Gynorthwyydd Golygyddol. Mae ei gwaith ar Edward Lhwyd yn rhan o’r prosiect ‘Cultures of Knowledge’ sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Rhydychen a’i ariannu gan nawdd hael Sefydliad Andrew W. Mellon

    Bydd calendr ar-lein o’r llythyrau yn dangos mor ganolog oedd Edward Lhwyd yn rhwydwaith byd llên yr ail ganrif ar bymtheg. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, mae swm y llythyrau sydd ar gael wedi parhau i gynyddu; mae dros 2,100 ohonynt bellach, a’r rheini’n ymdrin â rhychwant eang ryfeddol o ysgolheictod a gwyddoniaeth. Cyfarwyddir y prosiect gan Dr Brynley F. Roberts, yr awdurdod pennaf ar Edward Lhwyd a fu’n gyfrifol am drawsysgrifio’r llythyrau yn y lle cyntaf. Mae’r rheini hefyd i’w cyhoeddi, ynghyd â delweddau digidol a nodiadau.