Content
31: Gwaith Llawdden

Awdur/Golygydd | R. Iestyn Daniel |
Cyhoeddwyd | 2006 |
ISBN | 0 947531 77 7 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xx+287 |
Blodeuai Llawdden yng nghanol y bymthegfed ganrif a bu’n clera yng nghanolbarth Cymru, yn y de-ddwyrain a’r Gororau. Dengys ei waith feistrolaeth gyflawn ar gerdd dafod draddodiadol ac yr oedd yn enwog am safon a chywirdeb ei ganu. Cywyddau yw’r rhan fwyaf o’r cerddi sydd wedi eu priodoli iddo a chanodd ar themâu megis moliant, serch, crefydd, gofyn a diolch. Y mae rhai o’i ddisgrifiadau o anifeiliaid a gwrthrychau eraill yn gofiadwy iawn ac ymdeimlir yn ei waith â phersonoliaeth ddiddan a hyderus.