Skip page header and navigation

Weithdrefn Ymarfer Annheg

Weithdrefn Ymarfer Annheg

Mae unrhyw fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar raglen ddilysedig sy’n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru yn ddarostyngedig i  y Brifysgol.

Gellir diffinio Ymarfer Annheg fel trosedd lle bydd myfyriwr yn ennill mantais nas caniateir mewn asesiad neu arholiad. Yn fwyaf cyffredin, mae Ymarfer Annheg yn digwydd ar ffurf twyllo mewn arholiad, copïo ffynhonnell arall (llyfr neu wefan efallai) neu gopïo gwaith myfyriwr arall.

Mae’r Weithdrefn Ymarfer Annheg yn esbonio sut y dylid ymchwilio i honiad o ymarfer annheg gan sefydliad a pha hawliau sydd gan y myfyriwr yn y broses.

Mae cael gweithdrefn sefydledig yn sicrhau fod yr holl achosion yn cael eu trin yn deg a bod hawl gan fyfyrwyr i apelio i’r Brifysgol os ydynt yn teimlo’n anhapus â’r ffordd y cafodd honiad ei drin gan y sefydliad.

Rhaid i ganolfannau cydweithredol ddilyn gweithdrefn Ymarfer Annheg Prifysgol Cymru os oes amheuaeth o achos o ymarfer annheg a dylid sicrhau bod yr holl staff a myfyrwyr yn ymwybodol o’r broses.

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) wedi cynhyrchu Siartr ar Weithdrefnau Cwynion ac Apeliadau Sefydliadol yn ddiweddar.

Mae pob canolfan gydweithredol yn gallu defnyddio meddalwedd Turnitin a all helpu i ganfod llên-ladrad.

Fe all myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth ar osgoi llên-ladrad yn Sgiliau Astudio.