Skip page header and navigation

Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru

Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru

Mae gan bob myfyriwr sydd wedi cwblhau Gradd, Diploma neu Dystysgrif a ddyfernir gan Brifysgol Cymru, boed yn astudio mewn sefydliad yng Nghymru neu yn un o’n canolfannau cydweithredol niferus, yr hawl i ddod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.

Ar ôl graddio, bydd llawer o fyfyrwyr awtomatig yn rhan o gynlluniau cyn-fyfyrwyr sefydliad eu hunain, ond drwy ymuno hefyd â Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gallwch ehangu eich rhwydwaith byd-eang ymhellach a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer cydweithio a chydweithredu.

Does dim tâl aelodaeth a gyda chyn-fyfyrwyr ym mhedwar ban byd, bydd cyfle i chi gysylltu â phobl ar raddfa fyd-eang, boed yn gymdeithasol neu’n broffesiynol. Yn ogystal â bod yn ffordd o gadw cysylltiad â’r Brifysgol a’ch gilydd, bydd hawl gennych chi hefyd i amrywiaeth eang o fuddion a chael y newyddion diweddaraf am y cyn-fyfyrwyr a digwyddiadau byd-eang.