Cyfeiriad Post: |
Dewi Huw Owen, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH
|
Dechreuodd Dewi Huw Owen fel myfyriwr PhD yn y Ganolfan ym mis Hydref 2015. Mae’n gweithio ar theori cyfieithu a hanes cyfieithu yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir.
Rhwng 2012 a 2015 bu Huw yn Swyddog Ymchwil ar brosiect – wedi’i gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac wedi’i leoli yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth – i lunio catalog disgrifiadol arlein o gyfieithiadau i’r Gymraeg yn y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Ffrwyth y prosiect yw Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg. Yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd Huw ysgrifennu ei flog academaidd pythefnosol ar gyfieithiadau, Bob dydd Iau bydd #cyfieithiadau!, lle cyhoedda drafodaethau ar gyfieithiadau, theori cyfieithu, cyfweliadau â chyfieithwyr, a chynyrchiadau ffilm gwreiddiol o weithiau wedi’u cyfieithu.
Cyn dechrau ar ei waith gyda Sefydliad Mercator, graddiodd Huw gyda BA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2007. Cwblhaodd MA mewn Astudiaethau Crefydd ym Mhrifysgol Bangor yn 2010, gan ysgrifennu ar y cyfnodolyn cenhadol o’r 20fed ganrif, Y Cenhadwr. Yn fwyaf diweddar, graddiodd gydag MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013 gyda thrafodaeth o’r ymateb beirniadol a fu i nofel Fictoraidd Winnie Parry, Sioned, yng ngoleuni theorïau Ferdinand de Saussure a Roland Barthes.
Mae Huw hefyd yn diwtor Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
|