Cychwynnodd Andrew Brown ar ei ddoethuriaeth yn y Ganolfan ym mis Hydref 2015, yn rhannol dan nawdd ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru. Bydd yn edrych i ba raddau yr oedd llongddrylliadau yng Nghymru yn rhywbeth mwy na chyfleoedd damweiniol i fanteisio arnynt gan dlodion cymunedau a oedd fel arall yn ufudd i’r gyfraith. Cyfeiria adroddiadau cyfoes at grwpiau o longddryllwyr cyson; bydd yr ymchwil yn adolygu ac yn dadansoddi’r dystiolaeth hanesyddol dros fodolaeth y proto-gangiau hyn, ac yn ei chymharu â chwedlau a baledi o’r cyfnod er mwyn ceisio darganfod pa sail, os o gwbl, sydd dros gredu fod y gangiau’n bodoli. Bydd yr astudiaeth hefyd yn ystyried gweithredoedd y rheini a oedd yn gysylltiedig â’r system gyfreithiol – system a oedd yn aml yn aneffeithiol ac y gallai ei chynrychiolwyr fod yn cydgynllwynio â’r llongddryllwyr.
Enillodd Andrew radd BA mewn Hanes o Brifysgol Cymru Casnewydd wedi iddo ymddeol o Heddlu Gwent yn dilyn deng mlynedd ar hugain o wasanaeth.
|